From Wikipedia, the free encyclopedia
Dramodydd a newyddiadurwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Florencio Sánchez (17 Ionawr 1875 – 7 Tachwedd 1910). Roedd yn un o aelodau La Generación del 900.
Ganwyd ym Montevideo a chafodd ei fagu yng nghefn gwlad. Gweithiodd fel clerc tra'n ysgrifennu beirniadaeth theatr ac erthyglau eraill ar gyfer papurau newydd lleol. Bu hefyd yn actio yn y theatr amatur. Brwydrodd wrth ochr y caudillo Aparicio Saravia yn erbyn yr Arlywydd Juan Idiarte Borda, ac ysgrifennodd y llyfr El caudillaje criminal en Sudamérica (1903) am ei brofiad. Trodd Sánchez at y mudiad anarchaidd, a pherfformiwyd ei ddramâu cynnar mewn canolfannau hamdden yr anarchwyr.[1]
Gweithiodd i bapurau newydd, gan gynnwys La República yn Rosario, yr Ariannin. Ei lwyddiant mawr cyntaf oedd y ddrama El canillita (1904). Teithiodd i gefn gwlad yr Ariannin, a'i brofiadau yno a ysbrydolodd La gringa (1904), M'hijo el dotor (1903), a Barranca abajo (1905). Symudodd Sánchez i Buenos Aires.[1]
Aeth i'r Eidal gyda chymorth ariannol llywodraeth Wrwgwái i ymweld â theatrau'r wlad. Bu farw ym Milan yn 35 oed.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.