Ffordd y Ffosydd
ffordd Rufeinig yn Lloegr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffordd Rufeinig sy'n rhedeg mwy na 230 milltir (360 km) ar draws Lloegr yw Ffordd y Ffosydd[1] (Saesneg: Fosse Way). Fe'i hadeiladwyd yn ystod y ganrif gyntaf a'r ail ganrif OC ac roedd yn cysylltu Isca Dumnoniorum (Caerwysg) yn y de-orllewin a Lindum Colonia (Lincoln) i'r gogledd-ddwyrain. Ar hyd y ffordd roedd yn cysylltu aneddiadau Rhufeinig pwysig Lindinis (Ilchester), Aquae Sulis (Caerfaddon), Corinium (Cirencester), a Ratae Corieltauvorum (Caerlŷr).
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | ffordd Rufeinig, adeilad Rhufeinig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Britannia |
Gwlad | Lloegr |
Hyd | 230 milltir |
Cau
Mae llawer o rannau o Ffordd y Ffosydd yn dal i’w gweld yn y dirwedd, ac yn ffurfio rhannau o ffyrdd modern, neu fel arall yn nodi’r ffiniau rhwng plwyfi, ardaloedd neu siroedd, ond bellach dim ond ar droed y gellir cael mynediad i rannau eraill.