Ferdinand I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ymerawdwr Glân Rhufeinig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tywysog o gyff Sbaenaidd Tŷ Hapsbwrg oedd Ferdinand I (10 Mawrth 1503 – 25 Gorffennaf 1564) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1556 i 1564, yn Frenin Bohema, Hwngari a Chroatia o 1526 i 1564, ac yn Archddug Awstria o 1521 i 1564.
Ferdinand I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mawrth 1503 Alcalá de Henares |
Bu farw | 25 Gorffennaf 1564 Fienna |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Galwedigaeth | pendefig, teyrn, gwleidydd |
Swydd | Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Prince-Elector, brenin Bohemia, brenin Hwngari |
Tad | Felipe I, brenin Castilla |
Mam | Juana o Castilla |
Priod | Anne o Bohemia a Hwngari |
Plant | Johanna o Awstria, Siarl II, Archduchess Barbara of Austria, Margaret of Austria, Archduchess Eleanor of Austria, Catherine of Austria, Archduchess Magdalena of Austria, Archdduges Maria o Awstria, Ferdinand II, Archduke of Austria, Archdduges Anna o Awstria, Maximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Elizabeth of Austria, John of Habsburg, Archduchess Helena of Austria, Ursula von Habsburg |
Perthnasau | Louis II of Hungary, Vladislaus II o Bohemia a Hwngari, Isabel Clara Eugenia of Spain, Ferdinand III, Ferrando II, Isabel I, brenhines Castilla, Maximilian I, Maria van Bourgondië |
Llinach | Habsburg |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd y Gardas |
Ganed yn Alcalá de Henares, Castilia, yn fab i Philip Olygus, Dug Bwrgwyn, a Juana, etifeddes debygol i Goronau Castilia ac Aragon. Cafodd Ferdinand ei fagu a'i addysgu yn Sbaen. Esgynnodd Juana i orsedd Castilia yn 1504 ac Aragon yn 1516. Bu farw Philip yn 1506, rhai misoedd wedi iddo gael ei gyhoeddi yn Frenin Castilia, y cyntaf o deulu'r Hapsbwrgiaid i deyrnasu dros Sbaen. Daeth brawd hŷn Ferdinand, Siarl, yn frenin cyntaf Sbaen yn 1516 ac yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn 1519, a dan ei reolaeth bu tiriogaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ar ei hanterth. Roedd gan Ferdinand a Siarl bedwar chwaer: Eleanor, Brenhines Gydweddog Portiwgal a Ffrainc; Isabella, Brenhines Gydweddog Denmarc, Norwy a Sweden; Mair, Brenhines Gydweddog Hwngari a Bohemia a Llywodraethwr yr Iseldiroedd Hapsbwrgaidd; a Catrin, Brenhines Gydweddog Portiwgal.
Rhoddwyd tiriogaethau'r Hapsbwrgiaid yng Nghanolbarth Ewrop yng ngofal Ferdinand, a fe'i penodwyd yn Archddug Awstria ac yn Rhaglyw Württemberg. Am ddeng mlynedd ar hugain a mwy, Ferdinand oedd yn ddirprwy ei frawd yn nhiroedd Almaenig y Hapsbwrgiaid, a gwasanaethodd yn llywydd y Reichsregiment, cyngor llywodraethol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, ac yn gynrychiolydd mewn cynulliadau ymerodrol.[1] Yn sgil marwolaeth Lewis II, Brenin Hwngari a Bohemia, a oedd yn briod i'w chwaer Mair, ym Mrwydr Mohács yn 1526, etholwyd Ferdinand yn Frenin Bohemia a Hwngari a fe drodd y coronau hynny yn eiddo i etifeddion Tŷ Hapsbwrg. Hawliwyd Teyrnas Hwngari hefyd gan János Zápolya, a chytunodd y ddau frenin i rannu'r wlad rhyngddynt yn ôl Cytundeb Nagyvárad (1538). Bu Ferdinand hefyd yn wynebu bygythiad yr Ymerodraeth Otomanaidd, a lwyddodd i goncro rhannau o Hwngari ym Mrwydr Mohács. Methiant a fu'r gwarchae Otomanaidd ar Fienna yn 1529.
Roedd Ferdinand yn Babydd pybyr ac yn gwrthwynebu'r Diwygiad Protestannaidd. Cynhaliwyd Cymanfaoedd Speyer (1526 a 1529) ganddo, ac ymdrechodd i orfodi Gorchymyn Worms ac i sefydlogi'r Eglwys Gatholig ar draws yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn sgil Brwydr Lauffen yn 1534, cipiwyd Württemberg gan Philip I, Landgraf Hessen, un o arweinwyr y Lwtheriaid, a bu'n rhaid i Ferdinand gydnabod adferiad y Dug Ulrich. Yn 1546–47, cynorthwyodd Ferdinand yn yr ymgyrch Hapsbwrgiaid i drechu lluoedd Protestannaidd Cynghrair Schmalkalden. O'r diwedd cydnabu Ferdinand yr angen i gymodi'r Catholigion a'r Protestaniaid, a sicrhaodd Gytundeb Passau (1552) gyda Mortiz, Etholydd Sachsen, ac Heddwch Augsburg (1555) rhwng yr Ymerodraeth Lân Rufeinig a Chynghrair Schamlkalden.
Yn sgil ymddiorseddiad Siarl V yn 1556, rhennid tiriogaethau'r Hapsbwrgiaid rhwng ei fab Philip II, brenin Sbaen, a Ferdinand a goronwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn 1558. Aeth ati i ganoli gweinyddiaeth yr ymerodraeth ac i adfywio'r ffydd Gatholig yn ei diriogaethau. Bu'n rhaid i Ferdinand gytuno i dalu teyrnged i'r Otomaniaid yn 1562 am ei diriogaeth yng ngorllewin Hwngari. Bu farw Ferdinand yn Fienna yn 61 oed, a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei fab Maximilian II.[1]