Fay Weldon
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures, ysgrifydd a dramodydd Seisnig oedd Fay Weldon CBE, FRSL (ganwyd Franklin Birkinshaw ; 22 Medi 1931 ā 4 Ionawr 2023), sy'n fwyaf adnabyddus am ei nofelau, yn cynnwys '' Puffball (1980) a The Life and Loves of a She-Devil (1983).
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Fay Weldon | |
---|---|
Ganwyd | Franklin Birkinshaw 22 Medi 1931 Birmingham |
Bu farw | 4 Ionawr 2023 Northampton |
Man preswyl | Northampton |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, ymgyrchydd, sgriptiwr, hunangofiannydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, newyddiadurwr, awdur teledu |
Swydd | beirniad Gwobr Booker |
Cyflogwr | |
Mam | Margaret Jepson |
Gwobr/au | CBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol |
Gwefan | https://fayweldon.co.uk/ |
Cau
Ganed Weldon Franklin Birkinshaw yn Birmingham, Lloegr.[1] Roedd ei taid Edgar Jepson (1863-1938), ei hewythr Selwyn Jepson a'i mam Margaret Jepson yn awduron. [2]
Cafodd Weldon ei magu yn Christchurch, Seland Newydd, lle bu ei thad, Frank Thornton Birkinshaw, [3] yn gweithio fel meddyg. Ym 1936, pan oedd hi'n bump oed, cytunodd ei rhieni i wahanu. Treuliodd hi a'i chwaer Jane yr hafau gyda'i thad. Mynychodd Ysgol Uwchradd Merched Christchurch am ddwy flynedd o 1944. [4]