Féile na Gealaí
Gŵyl gerddoriaeth a diwylliant gyfoes uniaith Wyddeleg a gynhelir yn Gaeltacht Ráth Chairn / From Wikipedia, the free encyclopedia
Sefydlwyd Féile na Gealaí (Gwyddeleg am "Gŵyl y Lleuad") yn 2016 a phrif amcan y trefnwyr oedd darparu gŵyl wersylla cyfrwng Gwyddeleg i siaradwyr yr iaith Wyddeleg er mwyn hybu cerddoriaeth, diwylliant a’r holl gelfyddydau Gwyddeleg mewn ffordd newydd ac arloesol. Fe'i cynhelir yn flynyddol ym mhentref Gaeltacht Ráth Chairn Swydd an Mhí sydd oddeutu 55km o'r brifddinas, Dulyn.[1]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Iaith ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | gŵyl gerddoriaeth ![]() |
---|---|
Iaith | Gwyddeleg ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 2016 ![]() |
Genre | cerddoriaeth roc, hip hop, canu gwerin ![]() |
Lleoliad | Ráth Chairn ![]() |
Gwladwriaeth | Iwerddon |
Rhanbarth | Gaeltacht ![]() |
Gwefan | https://feilenagealai.com/ ![]() |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1b/Gaeltacht.jpg/250px-Gaeltacht.jpg)
Ymysg y perfformwyr mae cerddorion cyfoes sy'n canu caneuon pop a rap. Efallai mae'r enw fwyaf adnabyddus i Gymry yw'r grŵp rap gwleidyddol o ddinas Belffast, Kneecap.[2]