![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/2d/London_November_23_2018_%252819%2529_Extinction_Rebellion_Protest_Tower_Hill.jpg/640px-London_November_23_2018_%252819%2529_Extinction_Rebellion_Protest_Tower_Hill.jpg&w=640&q=50)
Extinction Rebellion
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gwrthryfel Difodiant (wedi'i dalfyrru'n rhyngwladol fel XR ) yn fudiad amgylcheddol byd-eang.[1][2] Mae'n defnyddio anufudd-dod sifil, di-drais i orfodi llywodraethau'r byd i i osgoi newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth, a'r risg o gymdeithas a'r byd natur rhag methu.[3][4][5]
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | mudiad cymdeithasol, sefydliad, llawr gwlad ![]() |
---|---|
Math | gweithredu uniongyrchol ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 2018 ![]() |
Yn cynnwys | Extinction Rebellion Australia, Extinction Rebellion Germany, Extinction Rebellion UK, Extinction Rebellion France, Extinction Rebellion in the Czech Republic, Extinction Rebellion Italy, Extinction Rebellion Netherlands, Extinction Rebellion Belgium ![]() |
Sylfaenydd | Gail Bradbrook, Roger Hallam ![]() |
Enw brodorol | Extinction rebellion ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig, yr Almaen, yr Eidal, Brenhiniaeth yr Iseldiroedd, Ffrainc, Portiwgal, Sbaen, Y Swistir, Unol Daleithiau America, Denmarc, Awstralia, Seland Newydd, Canada, Brasil, Pacistan, De Affrica, yr Ariannin, Awstria, Israel, Gwlad Belg, Gwlad Pwyl ![]() |
Gwefan | https://rebellion.global, https://tube.rebellion.global/video-channels/xrglobal_channel/videos ![]() |
![]() |
Sefydlwyd Gwrthryfel Difodiant yn swyddogol yn y Lloegr ym Mai 2018, gyda thua chant o academyddion yn arwyddo galwad i weithredu i gefnogi yn Hydref 2018.[6] Ddiwedd y mis hwnnw, lansiwyd XR gan Gail Bradbrook,[7] Simon Bramwell,[8] a Roger Hallam, ynghyd ag ymgyrchwyr hinsawdd eraill o'r grŵp ymgyrchu Rising Up![9] Yn Nhachwedd 2018, cafodd pum pont ar draws Afon Tafwys yn Llundain eu blocio mewn protest.[10] Yn Ebrill 2019, meddiannodd Gwrthryfel Difodiant bum safle amlwg yng nghanol Llundain: Piccadilly Circus, Oxford Circus, Marble Arch, Pont Waterloo, a'r ardal o amgylch Sgwâr y Senedd.
Eu hysbrydoliaeth oedd mudiadau megis Occupy, y swffragetiaid,[11] a’r mudiad hawliau sifil. Roedd Gwrthryfel Difodiant eisiau raliau tebyg ledled y byd o amgylch yr ymdeimlad o frys, ac i fynd i’r afael â chwalfa hinsawdd[12] a’r chweched difodiant torfol.[13] Mae nifer o weithredwyr yn y mudiad yn derbyn y posibilrwydd o gael eu harestio a'u carcharu[14].
Mae'r mudiad yn defnyddio awrwydr arddulliedig, wedi'i gylchu, a elwir yn "symbol difodiant", i rybuddio bod amser yn prysur ddiflannu i lawer o rywogaethau.[15][16]
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/ef/Extinction_Rebellion%2C_green_placard_%28cropped%29.jpg/640px-Extinction_Rebellion%2C_green_placard_%28cropped%29.jpg)