From Wikipedia, the free encyclopedia
Arwyddlun sy'n cael ei ddefnyddio mewn negeseuon electronig a thudalennau gwe yw emoji. Maent yn bodoli mewn nifer o ffurfiau, yn cynnwys edrychiadau neu ystumiau'r wyneb, gwrthrychau cyffredin, lleoedd a mathau o dywydd, ac anifeiliaid. Maent yn debyg iawn i emoticonau, ond mae emoji yn lluniau yn hytrach na theipograffigau.[1] Daw'r gair emoji o'r Japaneg e (絵, "llun") + moji (文字, "llythyren" neu "arwyddnod"); cyd-ddigwyddiad yw'r tebygrwydd i'r geiriau 'emosiwn' ac 'emoticon'.[2] Y cod sgript ISO15924 ar gyfer emoji yw Zsye
.
Yn deillio o ffonau symudol Siapaneaidd ym 1997, daeth yr emoji yn fwyfwy poblogaidd ledled y byd yn 2010au ar ôl cael eu hychwanegu at nifer o systemau gweithredu ffonau symudol.[3][4] Erbyn hyn ystyrir eu bod yn rhan fawr o ddiwylliant poblogaidd yn y gorllewin.[5]
Rhagflaenwyd yr emoji gan yr emoticon testun[6] a mathau eraill o gynrychioliadau graffigol, o fewn a thu allan i Japan.[7][8]
Cafodd y ffôn symudol cynharaf y gwyddys amdano a oedd yn cynnwys set o emoji ei ryddhau yn Japan gan J-Phone ar 1 Tachwedd 1997. Roedd y set o 90 emoji yn cynnwys llawer a fyddai'n cael eu hychwanegu yn ddiweddarach at y Safon Unicode, fel Tomen o Ddom, ond ni chawsant eu defnyddio'n eang ar y pryd am fod y ffôn yn ddrud iawn i'w brynu.[9]
Yn 1999, creodd Shigetaka Kurita y set gyntaf o emoji a ddefnyddiwyd yn eang.[10][11] Roedd yn aelod o'r tîm oedd yn gweithio ar lwyfan Rhyngrwyd symudol i-mode NTT DoCoMo.[12] Cymerodd Kurita ysbrydoliaeth o ragolygon y tywydd a oedd yn defnyddio symbolau i ddangos y tywydd, arwyddluniau Tsieineaidd ac arwyddion stryd, ac o Manga a oedd yn defnyddio symbolau stoc i fynegi emosiynau, megis bylbiau golau fel arwydd o ysbrydoliaeth.[12][13][14] Defnyddiwyd Emoji i ddechrau (gweler diwylliant ffonau symudol Japan) gan gwmnïau ffonau symudol Japan, NTT DoCoMo, au, a SoftBank Mobile (Vodafone gynt). Diffiniodd y cwmnïau hyn eu hamrywiadau emoji eu hunain gan ddefnyddio safonau perchnogol. Crëwyd y set gyntaf o emoji 12 × 12 picsel ar gyfer negeseuon i-mode i helpu i hwyluso cyfathrebu electronig, ac i fod yn nodwedd oedd yn eu gwahaniaethu oddi wrth wasanaethau eraill.[3] Creodd Kurita y 180 emoji cyntaf yn seiliedig ar yr wynebau a welai bobl yn eu gwneud, a phethau eraill, yn y ddinas.[14]
Ers 2010, mae rhai setiau o arwyddluniau emoji wedi'u hymgorffori i Unicode, system safonol ar gyfer mynegeio arwyddnodau, sydd wedi eu galluogi i gael eu defnyddio y tu allan i Japan ac i gael eu safoni ar draws gwahanol systemau gweithredu.
Mae poblogrwydd emoji wedi arwain at bwysau gan werthwyr a marchnadoedd rhyngwladol i ychwanegu dyluniadau i safon Unicode i gwrdd â gofynion gwahanol ddiwylliannau. Ychwanegodd Unicode 7.0 tua 250 emoji, nifer ohonynt o'r ffontiau Webdings a Wingdings.[15] Mae rhai arwyddnodau sydd bellach wedi'u diffinio fel emoji yn cael eu hetifeddu o amrywiaeth o systemau negesu cyn Unicode, ac nid rhai a ddefnyddiwyd yn Japan yn unig, gan gynnwys Yahoo a MSN Messenger.[16] Ychwanegodd Unicode 8.0 41 emoji arall, gan gynnwys gwrthrychau sy'n offer chwaraeon fel yr bat criced, eitemau bwyd fel y taco, arwyddion y Sidydd, ystumiau wyneb newydd, a symbolau ar gyfer addoldai.[17] Mae galw corfforaethol am safoni emoji wedi rhoi pwysau ar Gonsortiwm Unicode, gyda rhai aelodau'n cwyno ei fod wedi goddiweddyd ffocws traddodiadol y grŵp ar safoni arwyddnodau a ddefnyddir ar gyfer ieithoedd lleiafrifol a thrawsgrifio cofnodion hanesyddol.[18]
Mae arwyddnodau emoji yn amrywio ychydig rhwng platfformau o fewn y cyfyngiadau ystyr a ddiffinnir gan fanyleb Unicode, wrth i gwmnïau wedi geisio ychwnaegu elfennau artistig i syniadau a gwrthrychau.[19] Er enghraifft, yn nhraddodiad Apple, mae'r emoji calendr ar gynnyrch Apple bob amser yn dangos 17 Gorffennaf, y dyddiad y cyhoeddodd y cwmni ei ap calendr iCal ar gyfer macOS yn 2002. Arweiniodd hyn at rai defnyddwyr cynnyrch Apple i alw Gorffennaf 17 yn "Ddiwrnod yr Emoji".[20] Mae ffontiau emoji eraill yn dangos dyddiadau gwahanol neu ddim yn dangos unrhyw ddyddiad penodol.[21]
Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddwyd dadansoddiad teimladau o emoji,[22] a darparwyd Graddfa Teimlad Emoji 1.0.[23] Yn 2016, perfformiwyd sioe gerdd am emoji am y tro cyntaf yn Los Angeles,[24][25] a rhyddhawyd y ffilm animeiddiedig The Emoji Movie yn haf 2017.[26][27]
Ym mis Ionawr 2017, yn yr hyn y credir yw'r astudiaeth raddfa-eang gyntaf o ddefnydd emoji, dadansoddodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Michigan dros 1.2 biliwn o negeseuon a fewnbynnwyd drwy Allweddell Kika Emoji [28] a chyhoeddwyd mai'r emoji o wyneb gyda dagrau o lawenydd oedd yr emoji mwyaf poblogaidd. Daeth y llygaid fel calonnau yn ail a'r emoji calon yn drydydd. Roedd yr astudiaeth yn dangos gwahaniaethau rhwng diwylliannau: y Ffrancwyr oedd yn defnyddio'r emoji calon fwyaf aml,[29] roedd pobl Awstralia, Ffrainc a'r Weriniaeth Tsiec yn gwneud mwy o ddefnydd o'r emoji hapis, tra nad oedd hyn yn wir am bobl ym Mecsico, Colombia, Chile a'r Ariannin, lle roedd pobl yn defnyddio emoji mwy negyddol o gymharu â chanolfannau diwylliannol a oedd yn cael eu gweld yn fwy ymataliol a hunanddisgybledig, fel Twrci, Ffrainc a Rwsia.[30]
Mae ymchwil wedi dangos bod emoji yn aml yn cael ei gamddeall. Mewn rhai achosion, mae'r camddealltwriaeth hwn yn gysylltiedig â sut y caiff y dyluniad emoji ei ddehongli gan y derbynnydd;[31] mewn achosion eraill, nid yw'r emoji a anfonwyd yn cael ei ddangos yn yr un ffordd ar yr ochr sy'n ei dderbyn.[32]
Mae'r mater cyntaf yn ymwneud â dehongliad diwylliannol neu gyd-destunol yr emoji. Pan fydd yr awdur yn dewis emosiwn, maen nhw'n meddwl amdano mewn ffordd benodol, ond efallai na fydd yr un arwyddlun yn sbarduno'r un meddyliau ym meddwl y derbynnydd.[33]
Er enghraifft, mae pobl yn Tsieina wedi datblygu system ar gyfer defnyddio emoji yn gynnil, fel y gellid anfon wyneb hapus i gyfleu agwedd ddirmygus, watwarus, a hyd yn oed yn annymunol, am nad yw'r orbicularis oculi (y cyhyr ger y gornel uchaf llygad) ar wyneb yr emoji yn symud, ac mae'r orbicularis oris (yr un ger y geg) yn tynhau, a chredir ei fod yn arwydd o atal gwên.[34]
Mae'r ail broblem yn ymwneud â thechnoleg a brandio. Pan fydd awdur neges yn dewis emoji o restr, caiff ei amgodio fel arfer mewn modd an-graffigol yn ystod y trosglwyddiad, ac os nad yw'r awdur a'r darllenydd yn defnyddio'r un feddalwedd neu system weithredu ar gyfer eu dyfeisiau, gall dyfais y darllenydd gyflwyno'r un emoji mewn ffordd wahanol. Gall newidiadau bach i olwg arwyddlun newid ei ystyr canfyddedig yn llwyr gyda'r derbynnydd.
Bathwyd y gair gwenoglun gan Nic Dafis ar gyfer emoticon wrth gyfieithu pecyn meddalwedd phpBB i'r Gymraeg yn 2002. Roedd hynny yn bennaf oherwydd fod y meddalwedd yn cyfeirio at 'smileys' - ffordd o osod gwynebau bychain o fewn neges.[35] Daeth y term yn boblogaidd ar wefan drafod Maes-e ond prin yw'r defnydd bellach ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i'r defnydd o emojis ddisodli yr hen arddull testunol. Gwelir y defnydd o gwennoglun (sic) wrth gyfeirio at emoji [36] mewn erthygl gan Rhoslyn Prys ym mis Tachwedd 2015.
Cafwyd cyflwyniad ar yr emoji fel yr 'iaith newydd sy'n tyfu gyflymaf gan Dr Viv Evans o Brifysgol Bangor yn 2015 yn nodi twf yn y defnydd o'r ieithwedd.[37] ac holwyd "a yw emojis yn iaith?" ar BBC Radio Cymru yn 2016.[38]
Ar 26 Ionawr 2017 cyhoeddwyd y byddai Unicode yn rhyddhau baner Cymru yn emoji ar gael yn gyhoeddus.[39] Gwnaed hyn yn dilyn ymgyrch i sefydlu emoji baneri gwledydd Prydain ei ddechrau gan Jeremy Burge o Emojipedia a phennaeth cyfryngau cymdeithasol BBC Cymru, Owen Williams.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.