Emilia Clarke
actores a aned yn 1986 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actores Seisnig yw Emilia Isabelle Euphemia Rose Clarke (ganwyd 23 Hydref 1986[1]) Caiff ei hadnabod fel Daenerys Targaryen, rôl mwyaf ei gyrfa hyd yma, yn y gyfres deledu boblogaidd Game of Thrones (HBO). Hyd at 2016 roedd wedi cael tri enwebiad 'Primetime Emmy Award am chwarae'r rhan yma: yn 2013, 2015 a hefyd yn 2016.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Man preswyl ...
Emilia Clarke | |
---|---|
Ganwyd | Emilia Isobel Euphemia Rose Clarke 23 Hydref 1986 Llundain |
Man preswyl | Berkshire, Hampstead, Venice |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu |
Adnabyddus am | Game of Thrones |
Gwobr/au | MBE |
Cau
Yn Broadway ym Mawrth 2013 yr ymddangosodd yn gyntaf: yn Breakfast at Tiffany's fel y cymeriad Holly Golightly. Yn 2015, serenodd fel Sarah Connor yn Terminator Genisys ac yn 2016 yn y ffilm rhamant Me Before You, a wnaeth incwm o $150 miliwn yn fyd-eang.
Yn 2015 enwyd hi gan y cylchgrawn Esquire fel y Sexiest Woman Alive.[2]