From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlunydd o Gymru yw Elfyn Lewis (ganwyd 1969).[1]
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol |
---|---|
Gwefan | http://www.elfynlewis.com/ |
Fe'i ganwyd a magwyd ym Morthmadog. Mae'n byw yn Grangetown, Caerdydd ers 2002, ond yn dweud bod ei fywyd ym Mhorthmadog yn dal i ddylanwadu ar ei waith.[1]
Mae paentiadau tirwedd Lewis yn defnyddio paent trwchus, sy'n aml yn diferu dros yr ymylon.[2] Yn 2024 newidiodd ei arddull, gan ddefnyddio llai o liwiau a phaent mwy trwchus, sy'n llifo dros ymylon y gweithiau i ychwanegu dimensiwn 'cerfluniol' newydd.[3]
Enillodd Lewis y Medal Aur am Gelfyddyd Gain yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol 2009, wedyn enillodd Welsh Artist of the Year yn 2010.[2] Etholwyd ef i'r Academi Frenhinol Gymreig, Conwy fel cydnabyddiaeth i'w gyfraniad i'r byd celf Gymreig.[4]
Yn 2017 cefnogodd alwadau ar gyfer Oriel Gelf Genedlaethol i Gymru gan nodi y gall gwaith cael ei harddangos yno yn ogystal ag yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Nododd y byddai hynny'n cryfhau hunaniaeth genedlaethol Gymreig ac y gallai atynnu gwaith celf ryngwladol. Dywedodd hefyd y gallai'r adeilad fod yng Nghaerdydd neu man arall a dangos peth o gasgliad "anferthol" yr Amgueddfa Genedlaethol nad yw i'w gweld i'r cyhoedd.[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.