Mae'r Elbasan Arena (a elwid gynt yn Stadiwm Ruzhdi Bizhuta a enwyd ar ôl un o chwaraewyr enwocaf y tîm lleol) yn stadiwm aml-bwrpas yn ninas Elbasan, Albania. Fe'i hagorwyd yn 1967 a bu ers hynny yn gartref i glwb pêl-droed KF Elbasani, clwb sy'n chwarae ar y Kategoria Superiore, adran gyntaf pêl-droed Albania.[1]

Ffeithiau sydyn Math, Agoriad swyddogol ...
Elbasan Arena
Thumb
Mathstadiwm Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1967 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1967 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirElbasan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau41.1159°N 20.092°E Edit this on Wikidata
Rheolir ganKF Elbasani Edit this on Wikidata
Thumb
PerchnogaethKF Elbasani Edit this on Wikidata
Cau

Ym mis Ionawr 2014, cadarnhawyd y byddai'r stadiwm yn gartref dros dro i gemau cartref tîm pêl-droed cenedlaethol Albania,tra bod y gwaith o ddymchwel ac ailadeiladu Stadiwm Stafa Qemal yn y brifddinas, Tirana yn cael ei gwblhau. Bu'n rhaid i Ffederasiwn Pêl-droed Albania adnewyddu'r stadiwm er mwyn bodloni gofynion UEFA.

Dechreuwyd ar y gwaith o ail-adeiladu ym mis Chwefror 2014. Ail-adeiladwyd yr ystafelloedd newid ar gyfer chwaraewyr a dyfarnwyr, a crewyd cyfleusterau newydd ar gyfer cynnal cynadleddau a digwyddiadau. Cafodd y goleuadau stadiwm ei ddisodli'n llwyr a gosodwyd sgorfwrdd electronig newydd. Gosodwyd hefyd 12,500 o seddi. Cwblhawyd y gwaith ar 8 Hydref 2014. Cyfanswm y cost adnewyddu oedd €5,500,000.

Roedd gêm gyntaf Albania yn y Arena Elbasan ar 11 Hydref 2014 pan wynebodd y tîm cartref Denmarc mewn gêm rhagbrofol i gwpan Ewro 2016.[2] Chwaraewyd y gêm o flaen torf lawn, a record i'w stadiwm hyd y dyddiad yna, o 12,800. Llwyddodd Albania i ennill pwynt mewn gêm gyfartal 1 - 1 yn erbyn tîm â phedigri cryf iawn.

Ffeithiau

Maint cae chwarae yr Elbasan Arena yn 104 metr o hyd wrth 66metr o led. Capasiti y stadiwm yw 12,800. Mae'r cae yn laswellt go iawn.

Stwdiwm Elbasan Arena yw'r ail fwyaf yn Albania. Yr un fwyaf yw Stadiwm Loro Boriçi yn Shkodër.[3]

Lleoliad

Mae stadiwm Elbasan Arena oddeutu 1 km i'r dwyrain o ganol y ddinas a 2 km i'r gogledd ddwyrain o orsaf drên. https://it.wikipedia.org/wiki/Elbasan_Arena#/maplink/0

Cymru

Bydd Cymru yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Albania yn yr Elbasan Arena ar 20 Tachwedd 2018.

Cyfeiriadau

Oriel

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.