![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f8/Edward_r_murrow_challenge_of_ideas_screenshot_2.jpg/640px-Edward_r_murrow_challenge_of_ideas_screenshot_2.jpg&w=640&q=50)
Edward R. Murrow
From Wikipedia, the free encyclopedia
Newyddiadurwr a darlledwr Americanaidd oedd Edward R. Murrow, ganwyd Egbert Roscoe Murrow (25 Ebrill 1908 – 27 Ebrill 1965).[1]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Edward R. Murrow | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Egbert Roscoe Murrow ![]() 25 Ebrill 1908 ![]() Greensboro, Gogledd Carolina ![]() |
Bu farw | 27 Ebrill 1965 ![]() Pawling ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr ![]() |
Priod | Janet Huntington Brewster ![]() |
Gwobr/au | Gwobrau Peabody, KBE, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr George Polk, Gwobr George Polk, Television Hall of Fame, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Trustees Award ![]() |
llofnod | |
![]() |
Cau
Cafodd Murrow ei eni yn Greensboro, Gogledd Carolina, yn fab i Roscoe Conklin Murrow a'i wraig Ethel F. Murrow (ganwyd Ethel F. Lamb); Crynwyr oeddynt.[2] Ar ôl graddio o'r ysgol uwchradd ym 1926, cofrestrodd Murrow ym Mhrifysgol Talaith Washington. Priododd Janet Huntington Brewster ar 12 Mawrth 1935.
Bu Murrow yn gweithio i CBS a gwneud darllediadau o'r DU yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd Winston Churchill eisiau ei wneud yn gyd-Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, ond gwrthododd Murrow.
Yn y 1950au, helpodd ei raglen teledu, See It Now, i ddod â mudiad Joseph McCarthy i lawr yn yr UDA.[3]