![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/91/1907_arrest_of_Dora_Thewlis.jpg/640px-1907_arrest_of_Dora_Thewlis.jpg&w=640&q=50)
Dora Thewlis
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Dora Thewlis (15 Mai 1890 - 1976) a fu'n ymgyrchydd brwd dros sicrhau'r bleidlais i ferched.[1]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Dora Thewlis | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 15 Mai 1890 ![]() Huddersfield ![]() |
Bu farw | 1976 ![]() Awstralia ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros hawliau merched, swffragét, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched ![]() |
Cau
Fe'i ganed yn Honley ger Huddersfield, Swydd Efrog ar 15 Mai 1890, yn un o 7 plentyn James a Eliza Thewlis. Gwehydd oedd ei thad, ac yn ei harddegau, trodd Dora hefyd ei golygon tua'r melinau gwlân. Roedd y teulu yn sosialwyr rhonc. [2] Yn saith oed, gallai ddal pen rheswm am faterion gwleidyddol y cyfnod. Mewn pentref cyfagos, tuag ugain mlynedd cyn ei genedigaeth, sefydlwyd un o gwmniau cydweithredol cyntaf gwledydd Prydain.[3]