![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/82/Dolgarrog_hydroelectric_power_station_in_Dyffryn_Conwy%252C_Parc_Cenedlaethol_Eryri_%2528National_Park%2529_01.jpg/640px-Dolgarrog_hydroelectric_power_station_in_Dyffryn_Conwy%252C_Parc_Cenedlaethol_Eryri_%2528National_Park%2529_01.jpg&w=640&q=50)
Dolgarrog
pentref a chymuned yn Sir Conwy a Dyffryn Conwy / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Dolgarrog.[1][2] Saif ar ffordd y B5106 ar hyd glan orllewinol Afon Conwy, rhwng Tal-y-bont a Threfriw.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 446 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,479.56 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.191°N 3.844°W ![]() |
Cod SYG | W04000115 ![]() |
Cod post | LL32 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Claire Hughes (Llafur) |
![]() | |
Cau
Mae Afon Porth-llwyd, sy'n llifo o Lyn Eigiau a thrwy gronfa ddŵr Coedty, yn ymuno ag Afon Conwy ger rhan ogleddol y pentref, tra mae Afon Ddu, sy'n llifo o Lyn Cowlyd, yn ymuno ag Afon Conwy gerllaw'r rhan ddeheuol. Mae gorsaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy ar yr ochr arall i'r afon, a phont i gerddwyr yn ei chysylltu â'r pentref.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/24/Llyn_Eigiau_dam.jpg/320px-Llyn_Eigiau_dam.jpg)