![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/76/Burning_the_Israeli_flag_at_embassy_in_Cairo.jpg/640px-Burning_the_Israeli_flag_at_embassy_in_Cairo.jpg&w=640&q=50)
Diwrnod Nakba
From Wikipedia, the free encyclopedia
Diwrnod Nakba (Arabeg: يوم النكبة Yawm an-Nakbah, sy'n golygu "diwrnod y drychineb") yw'r enw a roddir ar ddiwrnod arbennig (15 Mai) i gofio am Al Nakba, y diwrnod hwnnw yn 1948 pan gollodd y Palesteiniaid eu tir i Israel.[1]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dyddiad ...
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad, diwrnod, counter-celebration ![]() |
---|---|
Dyddiad | 1948, 1920 ![]() |
![]() |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/76/Burning_the_Israeli_flag_at_embassy_in_Cairo.jpg/640px-Burning_the_Israeli_flag_at_embassy_in_Cairo.jpg)
Ym 1998 galwodd arweinydd y Palesteiniaid, sef Yasser Arafat ar ei bobl i gynnal cyfarfodydd i nodi pwysigrwydd y diwrnod.
Ar 23 Mawrth 2011, pleidleisiodd y Knesset newidiadau yng nghyllideb Llywodraeth Israel, er mwyn rhoi'r hawl iddynt leihau nawdd ariannol i unrhyw gorff neu fudiad a oedd yn ymwneud â threfniadau Diwrnod Nabka, mewn unrhyw fodd.