Diana Noel
arglwyddes, noddwraig crefydd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Diana Noel, Ail Farwnes Barham (18 Medi 1763-12 Ebrill 1823) yn arglwyddes, yn ddyngarwr ac yn a ddiddymwr a sefydlodd ysgolion ac eglwysi ar Benrhyn Gŵyr.[1][2][3]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Diana Noel | |
---|---|
Ganwyd | 18 Medi 1762 Barham Court |
Bu farw | 12 Ebrill 1823 Fairy Hill House |
Dinasyddiaeth | Cymru Lloegr |
Galwedigaeth | noddwr y celfyddydau |
Tad | Charles Middleton |
Mam | Margaret Gambier |
Priod | Gerard Noel |
Plant | Gerard Thomas Noel, Baptist Wriothesley Noel, Charles Noel, William Noel, Louisa Elizabeth Noel, Emma Noel, Charlotte Margaret Noel, Augusta Julia Noel, Juliana Hicks Noel, Frederick Noel, Francis James Noel, Berkeley Octavius Noel, Leland Noel Noel |
Cau
Hi oedd unig ferch Charles Middleton, arglwydd Barham, a Margaret ei briod, o Barham Court, Kent. Priododd Syr Gerard Noel yn 1780.[4] Wedi priodi, gwnaeth ei chartref yng Ngŵyr, Morgannwg, yn 1813, a chyda chymorth y Methodistiaid sefydlodd sawl capel yn rhannau Seisnig Gŵyr. Ni bu'r gyfathrach rhyngddi â'r Methodistiaid mor hapus ond cafodd gefnogaeth yr Annibynwyr. [5]