dyneiddiwr y Dadeni o'r Iseldiroedd, offeiriad Catholig, a diwinydd (1466-1536) From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Desiderius Erasmus (27 Hydref 1466/1469 - 12 Gorffennaf 1536) yn ddyneiddiwr Gristnogol a llenor o Iseldirwr, a aned yn Rotterdam.
Desiderius Erasmus | |
---|---|
Ganwyd | 28 Hydref 1466 Rotterdam |
Bu farw | o dysentri Basel |
Man preswyl | Erasmus House |
Dinasyddiaeth | Seventeen Provinces |
Addysg | Doethur mewn Diwinyddiaeth |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | cyfieithydd, athronydd, diwinydd, awdur ysgrifau, cyfieithydd y Beibl, ysgrifennwr, Lladinwr, offeiriad Catholig, academydd, Athro Diwinyddiaeth y Fonesig Margaret |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | In Praise of Folly, A handbook on manners for children, The Education of a Christian Prince |
Prif ddylanwad | Epicureanism, Cicero, Giovanni Pico della Mirandola |
Mudiad | Renaissance philosophy |
Erasmus oedd efallai'r mwyaf dylanwadol o feddylwyr mawr y Dadeni, nid yn unig am ei feddwl treiddgar ond am ei fod wedi astudio a dysgu ledled Ewrop.
Roedd yn ddyn dysgiedig iawn, yn ysgolhaig penigamp, a chyhoeddodd nifer o lyfrau yn ystod ei oes. Yr enwocaf ohonynt yw yr Encomium Moriae ("Molawd Ffolineb", 1509), a ysgrifennodd er diddanu ei gyfaill Thomas More.
Cyfieithodd y Testament Newydd o'r Roeg, am y tro cyntaf erioed, a dangosodd mai dogfen ail-law oedd y Beibl Fwlgat (cyfieithiad o gyfieithiad).
Gwrthwynebai'n gryf ddogmatiaeth a grym yr offeiriaid ac eto ni wrthododd y ddiwinyddiaeth Gatholig a chadwodd draw o'r ddadl ffyrnig ynghylch dysgeidiaeth Martin Luther.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.