Der Spiegel
Cylchgrawn materion cyfoes a nodwedd Almaeneg wythnosol / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Der Spiegel (Almaeneg am "Y Drych") yn gylchgrawn newyddion wythnosol o'r Almaen.[1] Crëwyd y cylchgrawn ar fenter a chyda chefnogaeth Lluoedd Meddiannu Prydain yn yr Almaen wedi'r Ail Ryfel Byd. Ymddangosodd y cylchgrawn am y tro cyntaf ar 4 Ionawr 1947 ac fe'i cyhoeddwyd yn Hanover tan 1952. Ers hynny, mae'r cylchgrawn wedi'i leoli yn Hamburg. Gyda chylchrediad wythnosol o 695,100 o gopïau, dyma'r cyhoeddiad mwyaf o'i fath yn Ewrop.[2][3] Mae gan y cylchgrawn gymhareb cynnwys i hysbysebu o 2:1.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Cyhoeddwr ...
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn |
---|---|
Cyhoeddwr | Spiegel-Verlag |
Gwlad | yr Almaen |
Iaith | Almaeneg |
Dechrau/Sefydlu | 1947 |
Dechreuwyd | 4 Ionawr 1947 |
Prif bwnc | cylchgrawn newyddion |
Sylfaenydd | Rudolf Augstein |
Pencadlys | Hamburg |
Gwladwriaeth | yr Almaen |
Gwefan | https://www.spiegel.de, https://www.spiegel.de/international/, http://www.spiegel.de/spiegel/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau