From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r deintgig neu cig y dannedd yn cynnwys meinwe fwcosaidd sy'n gorwedd dros yr ên isaf (mandibl) ac asgwrn yr ên uchaf (macsila) y tu fewn i'r geg. Mae iechyd a chlefyd deintgig yn gallu cael effaith ar iechyd cyffredinol yr unigolyn.[1]
Enghraifft o'r canlynol | strwythur o fewn anifail, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | organ zone, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | gên |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fel arfer, mae gan ddeintgig iach liw sydd wedi'i ddisgrifio fel "pinc cwrel." Mae lliwiau eraill fel coch, gwyn, a glas yn gallu bod yn arwydd o enyniad (llid y deintgig) neu batholeg. Er bod yn lliw yn cael ei ddisgrifio fel pinc cwrel, mae amrywiaeth yn y lliw yn bosibl. Gall hyn fod o ganlyniad i ffactorau fel: trwch a mesur ceratineiddiad yr epitheliwm, llif y gwaed i'r deintgig, pigmentiad naturiol, clefyd a meddyginiaethau.[2]
Gan fod lliw y deintgig yn gallu amrywio, mae cysondeb lliw yn bwysicach na'r lliw ei hun. Gall gormodedd o melanin achosi sbotiau neu glytiau tywyll ar y deintgig.
Mae deintgig iach yn edrych yn llyfn ac yn grwm neu sgolpiog ar bob dant. Mae deintgig iach yn llenwi a ffitio i bob bwlch rhwng y dannedd, yn wahanol i'r papila chwyddedig a welir mewn llid y deintgig neu'r agorfa gwag rhwng y dannedd a welir mewn clefyd amddanheddol. Mae deintgig iach yn glynu'n dynn wrth bob dant, yn teneuo wrth ddringo, tra bod ymylon deintgig llidiog, ar y llaw arall, yn ymddangos wedi "rowlio" neu wedi chwyddo.
Mae gan ddeintgig iach wead cadarn sy'n gwrthsefyll symudiad, ac mae'r gwead ar yr arwyneb yn aml yn arddangos dotweithio arwynebol, tebyg i groen oren. Mae deintgig afiach, ar y llaw arall, yn aml wedi chwyddo ac yn llai gwydn.
Nid yw deintgig iach yn ymateb i gynnwrf arferol fel brwsio neu chwilota amddanheddol. Bydd deintgig afiach yn gwaedu neu'n diferu'n grawnllyd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.