Defnyddiwr:Hedyddelias/Mer esgyrn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mer esgyrn yw'r meinwe hyblyg tu mewn asgwrn. Gyda bodau dynol, mae Cell goch y gwaed yn cael eu cynhyrchu gan rhan tu mewn i'r mer esgyrn ym mhen esgyrn hir mewn proses a elwir yn hematopoiesis. Ar gyfartaledd mae mer esgyrn yn gyfwerth a 4% o mas y corff o fodau dynol; mewn oedolyn sydd a mas o 65kg (143lb), fyddai mer esgyrn yn cyfateb i tua 2.6kg (5.7lb). Mae'r cyfansoddyn hematopoietic o mer esgyrn yn cynhyrchu tua 500 biliwn cell gwaed y diwrnod, sy'n defnyddio system fasgwlar y mer ersgyrn fel cwndid i system gylchredol y corff.[2] Mae mer esgyrn hefyd yn elfen allweddol i'r System lymff, gan gynhyrchu'r lymffocytau sy'n cefnogi System imiwnedd y corff.[3] Yn ychwanegol i'r celloedd hematopoietic, mae'r mer esgyrn yn cynnwys meinwe bloneg yn ogystal a'r asgwrn trabecwlaidd. Gall y gydadwaith rhwng y gwahanol celloedd yma a'u ffactorau lleol maent yn creu cael effaith ar gelloedd hematopoietic o fewn y gilfach bon-gell hematopoietic.
Bone marrow | |
---|---|
![]() A simplified illustration of cells in bone marrow | |
Manylion | |
System | Immune system[1](Lymphatic system)[Endocrine system] |
Dynodwyr | |
Lladin | Medulla ossium |
MeSH | D001853 |
Anatomeg |
Gall trawsblaniad mer esgyrn cael ei gynnal er mwyn trin clefydau difrifol y mer esgyrn, gan gynnwys mathau penodol o Canser megis Liwcemia. Yn ychwanegol mae bon-gelloedd wedi cael eu newid, yn llwyddiannus, i gelloedd niwral gweithredol,[4] ac hefyd, o bosib, yn gallu cael eu defnyddio i trin clefydau megis clefyd coluddyn llidus.[5]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5a/619_Red_and_Yellow_Bone_Marrow.jpg/640px-619_Red_and_Yellow_Bone_Marrow.jpg)
Y ddau fath o mer esgyrn yw "mer coch" (Lladin: medulla ossium rubra), sy'n cynnwys yn bennaf meinwe hematopoietic [celloedd coch y gwaed], a "mer melyn" ({{lang-la|medulla sy'n cynnwys yn bennaf celloedd bras. Mae Celloedd goch y gwaed, Platennau, a rhan helaeth o'r Celloedd gwaed gwyn i'w weld yn y mer. Mae'r ddau fath o mer esgyrn yn cynnwyr nifer o bibellu gwaed a carpilariau. Ar eni, mae'r ddau fath o mer esgyrn yn goch. Gyda oedran, mae mwy a mwy ohono yn cael ei droi i'r mer melyn; dim ond hanner o mer esgyrn oedolion sy'n goch. Mae mer coch fel arfer yn cael ei ddarganfod yn yr esgyrn gwastad megis y Pelfis, sternwm, Penglog, asennau, Fertibra a'r sgapwla ag yn yr deunydd cancellous ("Sbwnglyd") ar ddiwedd epiphyseal esgyrn hir megis asgwrn y forddwyd a'r hwmerws. Mae mer melyn iw weld yn y geudod medwlaidd, y gwacle yng nghanol esgyrn hir. Mewn achosion difrifol o golli gwaed, mae'r corff yn gallu newid y mer melyn i fer coch er mwyn cynnyddu cynhyrchiad celloedd goch y gwaed.