From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn damcaniaeth tebygolrwydd, mae'r ddeddf niferoedd mawr yn theorem sy'n disgrifio canlyniad perfformio'r un arbrawf nifer fawr o weithiau. Yn ôl y ddeddf, dylai cyfartaledd y canlyniadau a geir o nifer fawr o dreialon fod yn agos at y gwerth disgwyliedig, a byddant yn tueddu i ddod yn agosach at y gwerth disgwyliedig wrth i fwy o dreialon gael eu cynnal.[1]
Mae'r ddeddf yn bwysig oherwydd ei fod yn gwarantu canlyniadau tymor hir sefydlog ar gyfer cyfartaleddau rhai hapddigwyddiadau.[1][2] Er enghraifft, er y gallai casino colli arian mewn un droell o'r olwyn rwlét, bydd ei enillion yn tueddu tuag at ganran ragweladwy dros nifer fawr o droellon. Yn y pen draw, bydd paramedrau'r gêm yn goresgyn unrhyw gyfnod lwcus gan chwaraewr. Mae'n bwysig cofio bod y gyfraith ond yn berthnasol (fel y mae'r enw'n nodi) pan ystyrir nifer fawr o arsylwadau. Does dim egwyddor yn dweud bydd nifer fach o arsylwadau yn cyd-fynd â'r gwerth disgwyliedig, neu y bydd cyfnod lwcus yn cael ei "gydbwyso" ar unwaith gan gyfnod anlwcus (fe elwir hwn yn gamsyniad y gamblwr).
Er enghraifft, mae tafliad sengl o ddis teg chwech ochrog yn cynhyrchu un o'r rhifau 1, 2, 3, 4, 5, neu 6, pob un â thebygolrwydd cyfartal. Felly, gwerth disgwyliedig cyfartaledd y rholiau yw:
Yn ôl y ddeddf niferoedd mawr, os yw nifer fawr o ddis chwe ochr yn cael eu rholio, mae cyfartaledd eu gwerthoedd (a elwir hefyd yn gymedr y sampl) yn debygol o fod yn agos at 3.5, gyda'r manwl gywirdeb yn cynyddu wrth i fwy o ddis gael eu rholio.
Mae'n dilyn o'r ddeddf niferoedd mawr y bydd y tebygolrwydd empirig o lwyddo mewn cyfres o dreialon Bernoulli yn cydgyfeirio i'r tebygolrwydd damcaniaethol. Ar gyfer hapnewidyn Bernoulli, y gwerth disgwyliedig yw'r tebygolrwydd damcaniaethol o lwyddiant, a chyfartaledd n o'r hapnewidynnau hyn (gan dybio eu bod yn annibynnol ac wedi'u dosbarthu'n unfath) yw'r amledd cymharol.
Enghraifft o dreial Bernoulli yw taflu darn arian teg. Pan fydd darn arian teg yn cael ei fflipio unwaith, y tebygolrwydd damcaniaethol o gael pen yw 1/2. Felly, yn ôl y ddeddf niferoedd mawr, dylai cyfran y pennau mewn nifer "fawr" o fflipiau darn arian fod yn 1/2. Yn arbennig, bydd cyfran y pennau ar ôl n fflip bron yn sicr yn cydgyfeirio i 1/2 wrth i n agosáu at anfeidredd.
Enghraifft dda arall o'r ddeddf niferoedd mawr yw'r dull Monte Carlo. Defnyddir y dull hwn mewn dosbarth eang o algorithmau cyfrifiadol sy'n dibynnu ar hapsamplu tro ar ôl tro er mwyn cael canlyniadau rhifiadol. Po fwyaf yw nifer yr ailadroddiadau, y gorau y mae'r brasamcan yn tueddu i fod. Y rheswm pam mae'r dull hwn yn bwysig yw oherwydd weithiau mae'n anodd neu'n amhosibl defnyddio dulliau eraill.[3]
Nododd y mathemategydd Eidalaidd Gerolamo Cardano (1501–1576) heb brawf bod cywirdeb ystadegau empirig yn tueddu i wella gyda nifer y treialon.[4] Yna ffurfiolwyd hyn fel y ddeddf niferoedd mawr. Profwyd ffurf arbennig o'r ddeddf (ar gyfer hapnewidyn deuaidd) yn gyntaf gan Jacob Bernoulli.[5] Cymerodd dros 20 mlynedd iddo ddatblygu prawf mathemategol digon trylwyr a gyhoeddwyd yn ei Ars Conjectandi (The Art of Conjecturing) ym 1713. Fe enwodd hwn yn "Theorem Aur" ond fe'i gelwid yn gyffredinol yn "Theorem Bernoulli". Yn 1837, disgrifiodd Siméon Denis Poisson y ddeddf ymhellach o dan yr enw "la loi des grands nombres" ("y ddeddf niferoedd mawr").[6] Wedi hynny, roedd yn hysbys o dan y ddau enw, ond defnyddir "deddf niferoedd mawr" amlaf.
Ar ôl i Bernoulli a Poisson gyhoeddi eu hymdrechion, cyfrannodd mathemategwyr eraill hefyd at fireinio'r ddeddf, gan gynnwys Chebyshev,[7] Markov, Borel, Cantelli, Kolmogorov a Khinchin. Dangosodd Markov y gall y gyfraith fod yn berthnasol i hapnewidyn nad oes ganddo amrywiant meidrol o dan ryw dybiaeth wannach arall. Dangosodd Khinchin ym 1929, os yw'r gyfres yn cynnwys newidynnau ar hap a ddosberthir yn union yr un fath, mae'n ddigonol bod y gwerth disgwyliedig yn bodoli ar gyfer y ddeddf wan o niferoedd mawr i fod yn wir.[8][9] Mae'r astudiaethau pellach hyn wedi arwain at ddwy ffurf amlwg o'r ddeddf niferoedd mawr. Gelwir un yn ddeddf "wan" a'r llall yn ddeddf "gryf", gan gyfeirio at ddau fodd gwahanol o gydgyfeiriant gwerthoedd cyfartalog cronnus y sampl i'r gwerth disgwyliedig. Yn benodol mae'r ffurf gref yn awgrymu'r gwan.[8]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.