David Petersen
cerflunydd Cymreig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cerflunydd o Gaerdydd ydy David Petersen, sy'n byw yn Sanclêr. Metel fydd yn defnyddio yn bennaf ar gyfer cerflunio ond mae hefyd yn paentio a darlunio.
David Petersen | |
---|---|
![]() David Peterson yn An Oriant | |
Ganwyd | 1944 ![]() Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru ![]() |
Galwedigaeth | cerflunydd ![]() |
Mae ei feibion Toby a Gideon hefyd yn gerflunwyr. Enillodd y teulu'r cyfle i greu'r Oleufa Genedlaethol ar gyfer dathliadau'r Mileniwm.[1] David Petersen ddyluniodd y stamp ail-ddosbarth gyda'r cenheinen arni wedi ei gerfio o bren.[2]
Roedd Petersen hefyd ym ymgeisydd dros Blaid Cymru yn Etholiad Cynulliad Cymru ar gyfer etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed yn 1999. Fe enillodd 2356 o bleidleisiau, sef 8.1%.[3]
Roedd yn arwain y ddirpwyaeth o Gymru pob blwyddyn yn y Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant, ond ymddeolodd o'r swydd wirfoddol yn 2008, yn dilyn gwrthdaro gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru.[4]