Bardd, beirniad ac eisteddfodwr amlwg oedd David Griffiths (29 Tachwedd 1800 – 30 Hydref 1894),[1] sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Clwydfardd.
Bywgraffiad
Ganed David Griffith mewn pentref bach gwladol o’r enw Gwytherin, Sir Ddinbych ar 29 Tachwedd 1800. Mabwysiadodd yr enw barddol 'Clwydfardd' ar gyfer cystadlu yn yr eisteddfod.
Clwydfardd oedd Archdderwydd cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Gwasanaethodd yn y swydd o 1876 hyd 1894. Fel bardd nid yw'n ffigwr pwysig o gwbl — mae ei gerddi hirwyntog yn enghraifft o gynnyrch y "bardd eisteddfodol" sy'n nodweddiadol o'r cyfnod — ond fel archdderwydd a beirniad roedd ganddo statws uchel a lle amlwg iawn yng nghymdeithas Cymru yn chwarter olaf y 19eg ganrif.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.