![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/09/Agrotis_exclamationis01.jpg/640px-Agrotis_exclamationis01.jpg&w=640&q=50)
Dart calon a saeth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw dart calon a saeth, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy dartiau calon a saeth; yr enw Saesneg yw Heart & Dart, a'r enw gwyddonol yw Agrotis exclamationis.[1][2]
Ffeithiau sydyn Agrotis exclamationis, Dosbarthiad gwyddonol ...
Agrotis exclamationis | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | Insecta |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Noctuidae |
Genws: | Agrotis |
Rhywogaeth: | A. exclamationis |
Enw deuenwol | |
Agrotis exclamationis (Linnaeus, 1758) | |
Cyfystyron | |
|
Cau
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r dart calon a saeth yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
- Mewn ffram
- Gwryw
- Benyw
- Proffil
- Brand blaen
- Amrywiad lliw