Palaeograffwr ac ysgolhaig o Gymro From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Daniel Huws (ganwyd Mehefin 1932) yn arbennigwr ar lawysgrifau Cymraeg. Caiff ei gydnabod fel prif awdurdod y genedl ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig gan wella'n sylweddol ar waith John Gwenogvryn Evans.[1]
Daniel Huws | |
---|---|
Ganwyd | 1932 Llundain |
Man preswyl | Penrhyn-coch |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr |
Mam | Edrica Huws |
Gwobr/au | Derek Allen Prize, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Magwyd Huws yn Llundain a Môn, a mynychodd ysgol yn Llangefni cyn astudio Archaeoleg ac Anthropoleg yn Peterhouse, Caergrawnt.[2] Fel myfyriwr, daeth Huws yn ffrind agos i Ted Hughes, ac mae ei gofiant Memories of Ted Hughes 1952–1963 yn croniclo ei brofiadau o'r bardd yn ifanc, ei gylch cymdeithasol yng Nghaergrawnt, datblygiad ei berthynas â Sylvia Plath, a'u bywyd hwyrach yn Llundain.
Fe'i benodwyd i staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1961. Fe’i dyrchafwyd yn Geidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau y Llyfrgell yn 1981, ac ymddeolodd yn 1992. Mae hefyd yn aelod o'r Academi Gymreig.[3]
Mae'n nodedig am ei astudiaethau o lawysgrifau unigol, a'r rhain, ynghyd â phortreadau o gasglwyr o bwys yn y Dadeni, a gynhwysir yn ei waith Medieval Welsh Manuscripts, a gydnabyddir bellach fel testun academaidd allweddol y darn hwn o hanes a diwylliant ysgrifenedig Cymru.[4] O 2015 ymlaen, mae ei waith yn canolbwyntio ar hanes llawysgrifau Cymraeg yn parhau hyd at 1800.
Mae ei waith hefyd wedi cynnwys prosiectau eraill ar Gymru, gan gynnwys Beirdd y Tywysogion, Beirdd yr Uchelwyr, Testynau Rhyddiaith o Lawysgrifau, a The Poems of Dafydd ap Gwilym. Mae wedi ysgrifennu ar gerddoriaeth Gymraeg, yn ogystal â chyhoeddi tair cyfrol o farddoniaeth gyda Secker a Warburg a Faber and Faber. Yn gyfaill prifysgol ac yn gydymaith i Ted Hughes, mae wedi ysgrifennu cofiant o'r bardd.
Yn 2022, wythnos cyn ei ben-blwydd yn 90 oed, cyhoeddodd A Repertory of Welsh Manuscrips and Scribes, c.800-c.1800, a ddisgrifir fel y "cyhoeddiad pwysicaf ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig ers canrif a mwy". Mae’r tair cyfrol yn edrych ar lawysgrifau sy’n cael eu diogelu yn y Llyfrgell Genedlaethol, Prifysgol Bangor, y Llyfrgell Brydeinig, a Llyfrgell Bodleian, Rhydychen, yn ogystal â llawysgrifau sy’n cael eu cadw tu hwnt i wledydd Prydain mewn llefydd fel prifysgolion Yale a Harvard.[5]
Ymgyrchodd Huws a'i wraig yn aflwyddiannus i atal cau'r eglwys Gatholig yng nghanol Aberystwyth. Roedd ei chwaer yn gweithio fel arlunydd ym Mharis.
Dyfarnwyd Gwobr Derek Allen iddo gan yr Academi Brydeinig yn 2006.[6] Yn 2012, derbyniodd radd M.A. er anrhydedd ac yn 2017, derbyniodd radd D.Litt., y ddau gan Brifysgol Cymru.[7]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.