From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures o Sweden oedd Dagmar Lange (31 Mawrth 1914 - 9 Hydref 1991) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur nofelau trosedd a ditectif, y cyntaf o'i bath i sgwennu mewn Swedeg. Ei llysenw-awdur yw Maria Lang.[1]
Dagmar Lange | |
---|---|
Ffugenw | Maria Lang |
Ganwyd | 31 Mawrth 1914 Västerås |
Bu farw | 8 Hydref 1991 Nora |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, sgriptiwr, athro ysgol |
Arddull | nofel drosedd |
Fe'i ganed yn Västerås yng nghanol Sweden a bu farw yn Nora, Sir Örebro, Sweden.[2][3][4]
Tad Lange oedd y newyddiadurwr Clas Lange a'i mom oedd Elsa Kejser. Symudodd y teulu i Lindesberg yn 1915, pan benodwyd ei thad yn olygydd a chyhoeddwr y papur newydd Bergslagernas Tidning. Yn 1917 bu farw ei thad o lid yr ymennydd, pan oedd Dagmar yn ddwy flwydd oed. Yn 1919 priododd ei mam Carl Ivar Olson, ac ymsefydlodd yn Nora.[5]
Cofrestrodd Lange fel myfyriwr ieithoedd Sgandinafaidd yn Uppsala ym 1933, ac o 1934 yn Stockholms högskola. Y pwnc ar gyfer ei thesis PhD ym 1946 oedd Pontus Wikner. Rhwng 1946 a 1968, penodwyd hi i ysgol breifat Ahlströmska skolan, yn Stockholm, yn gyntaf fel athrawes ac yna fel prifathro.[6]
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Mördaren ljuger inte ensam, ym 1949 ac achosodd gryn ddadlau oherwydd bod dau o'r prif gymeriadau yn byw mewn perthynas gyfunrywiol. Cafodd y llyfr adolygiad cadarnhaol gan Barbro Alving in Dagens Nyheter.[7]
Ysgrifennodd Lange dros 40 o nofelau ditectif, yn ogystal â ffuglen trosedd i oedolion ifanc. Mae'r rhan fwyaf o'i llyfrau wedi'u lleoli yn nhref ffuglennol 'Skoga', sy'n seiliedig ar dref enedigol Lange sef Nora. Roedd yn un o 13 aelod gwreiddiol Academi Awduron Troseddau Sweden pan gafodd ei sefydlu ym 1971.
Bu'n aelod o Academi Awduron Trosedd Sweden am rai blynyddoedd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.