Dag Hammarskjöld
From Wikipedia, the free encyclopedia
Diplomydd, economegydd ac awdur o Sweden ac Ysgrifennydd Cyffredinol Y Cenhedloedd Unedig oedd Dag Hjalmar Agne Carl Hammarskjöld (29 Gorffennaf 1905 – 18 Medi 1961). Bu yn y swydd o Ebrill 1953 tan ei farwolaeth mewn damwain awyren ym Mis Medi 1961 yn 47 oed. Ef, hyd yma, yw'r ieuengaf i ddal y swydd ail Ysgrifennydd y CU. Mae hefyd yn un o'r unig dri pherson erioed i dderbyn Gwobr Nobel wedi iddo farw,[1] a'r unig Ysgrifennydd Cyffredinol i farw wrth ei waith. Bu farw ar ei ffordd i gyfarfod negydu heddwch.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Dag Hammarskjöld | |
---|---|
Ganwyd | 29 Gorffennaf 1905 Jönköping |
Bu farw | 18 Medi 1961 Ndola |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, economegydd, bardd, ysgrifennwr, athronydd |
Swydd | Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ysgrifennydd Gwladol, Minister of Foreign Trade, seat 17 of the Swedish Academy |
Cyflogwr |
|
Plaid Wleidyddol | Annibynnwr |
Tad | Hjalmar Hammarskjöld |
Mam | Agnes Maria Carolina Almquist |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Urdd Seren y Gogledd - Cadlywydd y Groes Uwch, Grand Cross of the Order of Merit, Uwch Groes Dannebrog, Uwch Groes Urdd y Orange-Nassau, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav |
Gwefan | https://www.daghammarskjold.se |
llofnod | |
Cau
Mewn teyrnged iddo galwodd yr Arlywydd John F. Kennedy ef "y gwladweinydd mwyaf a gawsom am ganrif gyfan."[2]