From Wikipedia, the free encyclopedia
Diffyg yng nghyfanswm dŵr y corff, ynghyd â'r effaith mae hynny'n ei gael ar fetabolaeth, yw dadhydriad.[1] Mae'n digwydd pan fydd mwy o ddŵr yn cael ei golli na'i yfed, fel arfer o ganlyniad i ymarfer corff, clefyd, neu dymheredd uchel. Gall dadhydriad ysgafn gael ei achosi gan droethlif troch, sy'n gallu cynyddu'r perygl o salwch datgywasgiad mewn plymwyr.
Gall y rhan fwyaf o bobl oddef gostyngiad o dri i bedwar y cant yng nghyfanswm dwr y corff heb drafferth neu effaith andwyol ar yr iechyd. Gall gostyngiad o bump i wyth y cant achosi blinder a phendro. Gall gostyngiad o ddeg y cant achosi dirywiad corfforol a meddyliol, ynghyd â syched eithafol. Mae gostyngiad o bymtheg i ddau-ddeg pump y cant o ddwr y corff yn farwol.[2] Nodweddion dadhydriad ysgafn yw syched ac anesmwythyd cyffredinol, a gellir ei drin trwy yfed dŵr.
Gall dadhydriad achosi hypernatremia (lefelau uchel o ionau sodiwm yn y gwaed) ac mae'n wahanol i hypofolemia (colli gwaed, yn arbennig plasma).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.