![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6b/Stonehenge_Total.jpg/640px-Stonehenge_Total.jpg&w=640&q=50)
Côr y Cewri
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cylch cerrig yw Côr y Cewri (Saesneg: Stonehenge), a godwyd yn Oes Newydd y Cerrig ar Wastadedd Caersallog i'r gogledd o ddinas Caersallog, Wiltshire, yn ne Lloegr. Mae ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1986. Credir bellach iddo gael ei godi tua 3,650 CC.[1]
Ffeithiau sydyn Math, Ardal weinyddol ...
![]() | |
Math | atyniad twristaidd, cromlech, cylch cerrig, cofadeilad, safle archaeolegol, amgueddfa hanes, meingylch ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Amesbury |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wiltshire (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.178889°N 1.826111°W ![]() |
Rheolir gan | English Heritage ![]() |
Cyfnod daearegol | Oes Newydd y Cerrig, Oes yr Efydd ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | prehistoric Britain ![]() |
Perchnogaeth | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ![]() |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
Deunydd | sarsen, carreg las ![]() |
Cau
Mae mwyafrif y cerrig yn dod o'r Marlborough Downs, ond mae cerrig gleision y cylch canol yn dod o fryniau'r Preseli, Sir Benfro ac wedi'u cludo yno bum mil o flynyddoedd yn ôl.[1] pan oedd y trigolion lleol yn cychwyn amaethu.
Mor gynnar â 1649, mynnodd John Aubrey mai'r derwyddion a gododd y cerrig, ac mae'r farn honno'n dal yn boblogaidd heddiw.