Cytundeb Paris (1947)
cytunebau heddwch Paris arwyddwyd 10 Chwef 1947 rhwng gwledydd Ewrop awedi'r Ail Ryfel Byd (heb gynnwys yr Almaen) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cytundeb heddwch oedd Cytundeb Paris a lofnodwyd ym mhrifddinas Ffrainc ar 10 Chwefror 1947 ac a oedd yn ganlyniad terfynol y gynhadledd heddwch a gynhaliwyd yn yr un ddinas rhwng 29 Gorffennaf a 15 Hydref 1946. Gan y bu y trafodaethau i gyd yn 1946 cyfeirir ato mewn rhai mannau fel Cytundeb Paris 1946. Ei henw llawn yw Cytundeb Heddwch Paris. Y gwladwriaethau a lofnododd y Cytundeb oedd:
- Cynghreiriaid buddugol yr Ail Ryfel Byd: Yr Unol Daleithiau, yr Undeb Sofietaidd, y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Iwgoslafia, Gwlad Pwyl, Gwlad Groeg, Tsiecoslofacia ac eraill.
- Gwledydd oedd wedi'u cynghreirio gyda'r Almaen yn ystod y gwrthdaro byd a elwir yn bwerau Echel (er i nifer ohonynt newid eu hochr wrth i'r Rhyfel fynd yn ei flaen): Yr Eidal, Rwmania, Hwngari, Bwlgaria a'r Ffindir. Ni allai'r Almaen gymryd rhan oherwydd iddi gael ei meddiannu gan bedwar pŵer buddugol y rhyfel ac nid oedd yn cael ei hystyried yn destun cyfraith ryngwladol.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb heddwch |
---|---|
Math | cytundeb heddwch |
Dyddiad | 10 Chwefror 1947 |
Gwlad | Iwgoslafia Yr Eidal Iwgoslafia Undeb Sofietaidd Y Ffindir Ffrainc Prydain Fawr Rwmania Bwlgaria Unol Daleithiau America |
Rhagflaenwyd gan | Cynhadledd Potsdam |
Lleoliad | Paris |
Lleoliad yr archif | La contemporaine |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Roedd gan y cytuniadau gymalau tiriogaethol, cymalau economaidd fel gwneud iawn am ryfel ac yn olaf cymalau gwleidyddol. Y nod oedd dadwneud y newidiadau tiriogaethol a orfodwyd neu a ysbrydolwyd gan yr Almaen Natsïaidd er 1938.[1]