olion tuag ugain o gytiau o gerrig sych a systemau caeau cysylltiedig, a berthynai i gyfres o ffermydd cyn hanes a ffermydd diweddarach From Wikipedia, the free encyclopedia
Safle archaeolegol yw Cytiau Tŷ Mawr, a elwir hefyd yn Grŵp Cytiau Mynydd Twr neu Cytiau'r Gwyddelod, lle ceir olion nifer o dai crwn o Oes yr Efydd, Oes yr Haearn a'r cyfnod Rhufeinig ac a leolir ar Fynydd Tŵr gerllaw Caergybi, Ynys Môn.
Ceir gweddillion 10 o dai crwn o faint sylweddol, tua 7m ar draws, ar hyd y llethr, gydag olion adeiladau llai, petrual. Mae llawr rhai o'r adeiladau petrual yn is na lefel y ddaear, a grisiau yn mynd i lawr iddynt.[1]
Bu cloddio archaeolegol yma gan W.O. Stanley yn 1862-8, a bu cloddio eto yn 1978-82. Darganfuwyd ar y safle dystiolaeth fod pobl wedi byw yma am gyfnod maith, yn dechrau yn y cyfnod Mesolithig a thrwy'r cyfnod Neolithig ac Oes yr Efydd. Mae'r adeiladau a welir ar y safle yn dyddio o Oes yr Haearn, a pharhawyd i'w defnyddio hyd y 6g.[1]
Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.