Cystadleuaeth Cân Eurovision 2008
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2008 oedd y 53ydd Cystadleuaeth Cân Eurovision, a gynhaliwyd yn Serbia. Cynhaliwyd y rowndiau cyn-derfynol ar yr 20fed a'r 22ain o Fai, gyda'r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar y 24ain o Fai 2008 yn y brifddinas Belgrade. Rwsia enillodd y gystadleuaeth, gyda chân Jim Beanz a Dima Bilan o'r enw "Believe" a berfformiwyd gan Bilan. Mae Arena Belgrade Arena, sef lleoliad y Gystadleuaeth, ymysg yr arenas dan-do fwyaf yn Ewrop, a gall ddal dros 20,000 o bobl. Enillodd Serbia'r hawl i gynnal y gystadleuaeth ar ôl i Marija Šerifović ennill y gystadleuaeth yn 2007 yn Helsinki, y Ffindir. Darlledwyd y digwyddiad gan RTS.
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2008 | |
---|---|
"Confluence of Sound" ("Cydlifiad Sain") | |
Dyddiad(au) | |
Rownd cyn-derfynol 1 | 20 Mai 2008 |
Rownd cyn-derfynol 2 | 22 Mai 2008 |
Rownd terfynol | 24 Mai 2008 |
Cynhyrchiad | |
Cyflwynyddion | Jovana Janković Željko Joksimović |
Cystadleuwyr | |
Tynnu'n ôl | Awstria |
Canlyniadau | |
◀2007 Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009▶ |
Agorodd gwefan swyddogol cystadleuaeth 2008 ar y 15fed o Ionawr 2008. Am y tro cyntaf erioed, darlledodd Eurovision.tv y rowndiau terfynol cenedlaethol ar ESCTV gyda chaniatad y darlledwyr. Ar y 30ain o Ionawr, 2008, datgelodd Eurovision.tv thema'r Gystadleuaeth sef "Cydlifiad Sain", thema a ysbrydolwyd gan leoliad Belgrade ar gydlifiad yr afonydd Sava a'r Danube. Cyflwynwyd y sioe gan Jovana Janković a Željko Joksimović. Cynrychiolodd Jelena Tomašević Serbia gyda chân a gyfansoddwyd gan Joksimović; arweiniodd hyn at gryn dipyn o ddadlau ynglŷn â'r rôl yn y gystadleuaeth.