Cystadleuaeth Cân Eurovision 2007
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2007 oedd y 52fed Cystadleuaeth Cân Eurovision, a chafodd ei gynnal rhwng y 10fed a'r 12fed o Fai, 2009 yn Hartwall Areena, Helsinki, Ffindir. Roedd y cynigion eraill yn Espoo, Turku and Tampere. Costiodd y gystadleuaeth €13 miliwn. Serbia enillodd y gystadleuaeth y flwyddyn honno. Derbyniodd y Ffindir yr hawl i gynnal y digwyddiad ar ôl i'r grŵp metal trwm, "Lordi" ennill Cystadleuaeth Cân Eurovision 2006. Dyma oedd y tro cyntaf i'r gystadleuaeth gael ei chynnal yn y Ffindir. Cyflwynwyd y sioe gan y cyflwynwraig teledu Ffinaidd, Jaana Pelkonen a'r cerddor a'r actor Ffinaidd Mikko Leppilampi. Gweithiodd Krisse Salminen fel cyflwynydd arbennig yn yr ystafell werdd, a darlledodd yn fyw o'r dorf yn Sgwâr y Senedd. Cymerodd 42 gwlad rhan yn y gystadleuaeth, sef y nifer uchaf erioed i gystadlu.
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2007 | |
---|---|
"True Fantasy" | |
Dyddiad(au) | |
Rownd cyn-derfynol 1 | 10 Mai 2007 |
Rownd terfynol | 12 Mai 2007 |
Cynhyrchiad | |
Cyflwynyddion | Jaana Pelkonen Mikko Leppilampi Krisse Salminen (Green Room) |
Cystadleuwyr | |
Tynnu'n ôl | ![]() |
Canlyniadau | |
◀2006 Cystadleuaeth Cân Eurovision 2008▶ |
Enillwyd y gystadleuaeth y flwyddyn honno gan Serbia a gynrychiolwyd gan y gantores Marija Šerifović. Enw'r gân fuddugol oedd "Molitva" sy'n golygu "Gweddi" yn Gymraeg.