![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/54/COP21_participants_-_30_Nov_2015_%252823430273715%2529.jpg/640px-COP21_participants_-_30_Nov_2015_%252823430273715%2529.jpg&w=640&q=50)
Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd 2015
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhaliwyd Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd 2015 (neu Conference of the parties (COP) ym Mharis[1] o 30 Tachwedd hyd at 12 Rhagfyr, 2015. Hon oedd 21ain cynhadledd "Cynhadledd y Partion" 'Confensiwn Fframwaith ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig' ers ei sefydlu yn 1992 ac 11eg sesiwn 'Cyfarfod y Partion' ers arwyddo Cytundeb Kyoto yn 1997.[2] Amcan y gynhadledd oedd sicrhau cytundeb i ymglymu cenhedloedd y byd yn gyfreithiol mewn materion sy'n ymwneud â newid hinsawdd neu, fel y'i gelwir yn gynyddol, yr argyfwng hinsawdd.[3]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/54/COP21_participants_-_30_Nov_2015_%2823430273715%29.jpg/640px-COP21_participants_-_30_Nov_2015_%2823430273715%29.jpg)
![]() Logo'r Cynhadledd | |
Cyfieithiad | United Nations Climate Change Conference |
---|---|
Dyddiad | 30 Tachwedd 2015 (2015-11-30)– 12 Rhagfyr 2015 (2015-12-12) |
Cyfranogwyr | Confensiwn Fframwaith ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig United Nations Framework Convention on Climate Change Gwledydd sy'n aelodau o'r UNFCCC |
Gwefan | Venue site Gwefan UNFCCC |
Canlyniad trafodaethau a negydu'r gynhadledd oedd L'accord de Paris, neu Gytundeb Paris, gyda'r nod o reoli a lleihau carbon deuocsid (CO2) o 2020. Mabwysiadwyd y cytundeb yn swyddogol ar 12 Rhagfyr 2015.