Cyngor Sir Gaerfyrddin, 1889–1974
From Wikipedia, the free encyclopedia
Sefydlwyd Cyngor Sir Gaerfyrddin cyntaf yn 1889 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888. Cynhaliwyd yr etholiadau cyntaf ym mis Ionawr 1889.[1]
Ffeithiau sydyn Israniadau ...
Cyngor Sir Gaerfyrddin | |
Daearyddiaeth | |
Statws | Cyngor Sir |
Pencadlys | Neuadd y Sir, Caerfyrddin |
Hanes | |
Tarddiad | Ddeddf Llywodraeth Leol 1888 |
Crëwyd | 1889 |
Diddymwyd | 1974 |
Ailwampio | Dyfed |
Israniadau | |
---|---|
Math | Dosbarth Trefol, Dosbarth Gwledig, Bwrdeistref Ddinesig |
Cau
Roedd pencadlys y cyngor yn Llanymddyfri nes iddo symud i Gaerfyrddin ym 1907. Dechreuwyd adeiladu Neuadd y Sir newydd ym 1939 ond, oherwydd y Rhyfel Byd, ni chafodd ei gwblhau tan 1955.[2]
Diddymwyd y cyngor sir o dan Deddf Llywodraeth Leol 1972 ar 1 Ebrill 1974, pan sefydlwyd Dyfed.[3] Sefydlwyd awdurdod unedol newydd yn Sir Gaerfyrddin yn ddiweddarach, o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 1996.[3]