![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9b/UStankParis-edit1.jpg/640px-UStankParis-edit1.jpg&w=640&q=50)
Cymuned ddiogelwch
From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhanbarth lle mae defnydd eang o drais (megis rhyfel) yn annhebygol neu hyd yn oed yn annirnadwy yw cymuned ddiogelwch.[1] Bathwyd y term gan y gwyddonydd gwleidyddol Karl Deutsch ym 1957. Yn eu gwaith arloesol Political community and the North Atlantic area: international organization in the light of historical experience, diffiniodd Deutsch a'i gydawduron gymuned ddiogelwch fel "grŵp o bobl" sy'n credu "eu bod wedi dod i gytundeb ar y pwynt hwn o leiaf: y gellir ac y dylir datrys problemau cymdeithasol cyffredin trwy brosesau o 'newid heddychlon'".[2] Diffiniwyd newid heddychlon fel "datrysiad problemau cymdeithasol, gan amlaf trwy drefnau sefydliadol, heb angen troi at rym corfforol ar raddfa eang".[2] Rhwymir pobl mewn cymuned ddiogelwch gan "deimlad o gymuned", cydymdeimlad, ymddiriedaeth, a diddordebau cyffredin.[2] Ystyrid yr Undeb Ewropeaidd yn enghraifft nodweddiadol o gymuned ddiogelwch.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9b/UStankParis-edit1.jpg/640px-UStankParis-edit1.jpg)