![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/91/EuroWales.svg/langcy-640px-EuroWales.svg.png&w=640&q=50)
Cymru yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyhoeddwyd ar 9 Mai 2018 byddai Cymru yn cystadlu am y tro cyntaf yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision i'w gynnal yn Minsk, Belarus a digwyddodd hynny yn 2018 a 2019. Y darlledwr S4C sy'n gyfrifol am drefniadau Cymru yn y gystadleuaeth.[1] Dewiswyd y cystadleuydd a gynrychiolodd Cymru drwy glyweliadau a ddangoswyd mewn cyfres o dair rhaglen deledu Chwilio am Seren.[2] Enillydd y gyfres ar 9 Hydref oedd Manw o Rostryfan gyda'r gân "Berta" a ysgrifennwyd gan Yws Gwynedd.[3] Daeth Cymru yn olaf yn y gystadleuaeth gyda 29 pwynt.[4]
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | cenedl yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision ![]() |
---|---|
Rhan o | Cystadleuaeth Junior Eurovision ![]() |
Gwefan | https://junioreurovision.tv/country/wales ![]() |
Bu Cymru yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth o'r blaen fel rhan o'r Deyrnas Unedig rhwng 2003 a 2005 drwy rwydwaith ITV. Dangosodd S4C ddiddordeb mewn cystadlu yng ngystadleuaeth 2008 yn Limassol, Cyprus, ond penderfynodd beidio a gwneud hynny.[5]