From Wikipedia, the free encyclopedia
Sefydlwyd y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol yn 1971 gyda'r amcan o hybu ymwybyddiaeth o faterion gwyddonol yng Nghymru, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg[1]. Mae'r gymdeithas wedi'i threfnu ar gynllun ffederal. Ym 1979 noddodd wobr gwyddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol[2].
Cymdeithas Wyddonol | |
Enghraifft o'r canlynol | cymdeithas wyddonol |
---|---|
Lleoliad | Aberystwyth, Bangor, Caerdydd |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.star.bris.ac.uk/rahm/cwcc/ |
Mae yna ganghennau ym Mangor[3], yng Nghaerdydd[4] ac yn Aberystwyth.
Mae'r gymdeithas yn trefnu digwyddiadau mewn ysgolion yn ogystal â chynhadledd flynyddol, ac mae'n cynhyrchu llyfrau a defnyddiau printiedig eraill ar gyfer plant ac oedolion, yn cynnwys Cystadleuaeth fathemategol (1983-) a Llyfr cyflwyno plentyn i'r Micro BBC (1986)[5][6]. Roedd yn cynhyrchu deunydd i'r we yn Gymraeg (archif gwe) ac yn ddwyieithog ar bynciau gwyddonol.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.