![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0b/Wales_location_map.svg/langcy-640px-Wales_location_map.svg.png&w=640&q=50)
Cylch Cerrig Cefn Llydan
From Wikipedia, the free encyclopedia
Heneb gynhanesyddol a chylch cerrig o Oes Newydd y Cerrig neu efallai Oes yr Efydd ydy cylch cerrig Cefn Llydan, tua 3 km i'r gorllewin o Dregynon, Powys; cyfeiriad grid SO057972. Rhif SAM CADW ar y safle yma ydy: MG260.
Mae siap y cylch yn hirgrwn a cheir ffos isel o'i amgylch.[1] Yn ôl pob tebyg, defnyddiwyd yr heneb hon gan y Celtiaid i ddefodau crefyddol ac i gladdu neu gofio am y meirw.