![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0b/Wales_location_map.svg/langcy-268px-Wales_location_map.svg.png&w=640&q=50)
Cylch Cerrig Bryn Ceri
cylch cerrig ym Mhowys / From Wikipedia, the free encyclopedia
Heneb gynhanesyddol a chylch cerrig sy'n dyddio o Oes yr Efydd ydy cylch cerrig Bryn Ceri (Saesneg: Kerry Hill), ger Ceri, Powys; cyfeirnod OS: SO158861. Rhif SAM CADW ar y safle yma ydy: MG055.[1]
Mae'r cylch yn mesur tua 24-25 metr ar draws a cheir naw carreg yno. Cerrig gweddol isel tua 0,3-0.5 metr o uchder ydynt ac eithrio maen hir 1.4 metre yn eu canol sy'n gorwedd ar y tir erbyn hyn.[2]
Yn ôl pob tebyg, defnyddiwyd yr heneb hon gan y Celtiaid i ddefodau crefyddol ac i gladdu neu gofio am y meirw.