Cyfraith tlodi
deddfau ynghylch tlodi yn Lloegr o’r 16eg ganrif i’r 19eg ganrif / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd y gyfraith tlodi yn system o roi cymorth wedi ei ffurfioli a’i chyfundrefnu i’r tlodion yng Nghymru a Lloegr a ddechreuodd yn niwedd y 14g a dechrau cyfnod y Tuduriaid. Roedd hon yn system a fodolai nes cyflwynwyd y wladwriaeth les fodern ar ôl yr Ail Ryfel Byd.[1]
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Cyfnod o Newid | |
BBC | |
Twf pwysau economaidd yn ystod oes y Tuduriaid | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Pasiwyd nifer o ddeddfwriaethau gan y Tuduriaid er mwyn ceisio rheoli a rhoi cymorth i nifer y tlodion yng Nghymru a Lloegr. Pasiwyd deddfwriaeth ganddynt a oedd yn delio â gwahanol fathau o dlodion, yn amrywio o’r tlawd methedig i grwydriaid a chardotwyr.
Mae modd rhannu hanes Deddf y Tlodion yng Nghymru a Lloegr yn ddau gyfnod ar sail deddfwriaeth a basiwyd: sef yr Hen Ddeddf y Tlodion a basiwyd adeg teyrnasiad Elisabeth I a’r Ddeddf y Tlodion newydd a basiwyd yn 1834, pan fu newidiadau sylweddol i system gymorth y tlodion.[2] Newidiodd y ddeddf newydd hon y system o fod yn un a oedd darparu cymorth ar lefel lleol y plwyf mewn ffordd hap a damwain i gyfundrefn llawer mwy canolog a oedd yn hyrwyddo sefydlu'r wyrcws ar lefel ehangach gan undebau deddf y tlodion.[3]
Dirywiodd system y gyfraith tlodi ar ddechrau'r 20g oherwydd ffactorau fel cyflwyno'r diwygiadau lles Rhyddfrydol ac argaeledd ffynonellau cymorth eraill gan gymdeithasau cyfeillgar ac undebau llafur, yn ogystal â diwygiadau tameidiog a aeth y tu hwnt i system Cyfraith y Tlodion.[4] Ni ddiddymwyd system cyfraith tlodi yn ffurfiol tan y Ddeddf Cymorth Gwladol yn 1948.[5]