From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgydwyd y byd gan gyflafan ysgol Peshawar, pan ymosododd saith aelod o'r Taleban Pacistanaidd â gynnau ar Ysgol Gyhoeddus y Fyddin yn ninas Peshawar, Pacistan, gan ladd 132 o blant a naw oedolyn. Digwyddodd hyn ar 16 Rhagfyr 2014.[1]
Enghraifft o'r canlynol | cyflafan |
---|---|
Dyddiad | 16 Rhagfyr 2014 |
Lladdwyd | 156 |
Lleoliad | Army Public School Peshawar |
Gwladwriaeth | Pacistan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Estroniaid oedd pob un o'r terfysgwyr: un Tsietsen, tri Arab a dau Affgan. Wedi iddynt fynd i mewn i gampws yr ysgol dechreuon nhw saethu'r staff a'r disgyblion,[2][3] gan ladd 145 o bobl: 132 o ddisgyblion (bechgyn yn unig)[4]. Roedd y rhain rhwng 8 ac 18 oed.[5][6] Cafwyd ymgyrch i ryddhau'r plant ar unwaith, gan fyddin Pacistan a lladdwyd y saith terfysgwr yn y fan a'r lle. Rhyddhawyd gweddil y bobl: dros 960.
Dywedodd Major General Asim Bajwa mewn cyfweliad â'r wasg fod o leiaf 130 o bobl wedi'u hanafu yn yr ymosodiad.[2]
Dyma'r gyflafan terfysgol waethaf a welwyd erioed ym Mhaciastan - gwaeth hyd yn oed na bomio Karachi yn 2007.[7]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.