![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/ed/1588_First_Welsh_Bible.jpg/200px-1588_First_Welsh_Bible.jpg&w=640&q=50)
Cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cafodd rhannau o'r Beibl eu cyfieithu i'r Gymraeg yn y 15fed ganrif, ond y cyfieithiad a deyrnasodd am bedair canrif oedd cyfieithiad William Morgan (esgob), Y Beibl cyssegr-lan sef Yr Hen Destament, a'r Newydd a gyhoeddwyd yn 1588[1] ac a ddiwygiwyd gan Dr John Davies, Mallwyd, yn bennaf, yn 1620.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/ed/1588_First_Welsh_Bible.jpg/640px-1588_First_Welsh_Bible.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c4/Still_surviving..._-_geograph.org.uk_-_406078.jpg/320px-Still_surviving..._-_geograph.org.uk_-_406078.jpg)
Cyhoeddwyd Y Beibl Cymraeg Newydd yn 1988 a'i adolygu yn 2004.
Mae beibl.net, a gyhoeddwyd yn 2015, yn gyfieithiad newydd i Gymraeg mwy llafar ei naws.
Yn 1551 roedd William Salesbury yn gyfrifol am gyhoeddi'r gyfran sylweddol gyntaf o'r Ysgrythurau i ymddangos yn Gymraeg, Kynniver llith a ban,[2] ac ef a oedd yn gyfrifol, yn bennaf, am y cyfieithiad Cymraeg o'r Testament Newydd a'r Salmau a gyhoeddwyd yn 1567, ac a ddiwygiwyd gan William Morgan ar gyfer ei gyfieithiad ef o'r Beibl cyfan yn 1588, Felly, mewn un ystyr byddai'n gywirach galw 'Beibl William Morgan' yn 'Feibl William Morgan a William Salesbury'.