![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/ed/1588_First_Welsh_Bible.jpg/640px-1588_First_Welsh_Bible.jpg&w=640&q=50)
Beibl 1588
cyfieithiad cyflawn cyntaf o'r Beibl i Gymraeg / From Wikipedia, the free encyclopedia
Beibl 1588 oedd y fersiwn llawn cyntaf o'r Beibl i ymddangos yn Gymraeg. Yr Esgob William Morgan (1545 - 10 Medi 1604), ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant ynghyd â Llanarmon Mynydd Mawr ar y pryd, oedd yn bennaf gyfrifol am y gwaith. Credir yn gyffredinol mai cyhoeddi'r Beibl hwn yn gymaint a dim arall fu'n gyfrifol i'r Gymraeg oroesi.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/1/16/Labeltestament1967.png/150px-Labeltestament1967.png)
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Iaith ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | fersiwn, rhifyn neu gyfieithiad ![]() |
---|---|
Iaith | Cymraeg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1588 ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/3/3c/Beibl_1588_LlGC.jpg/640px-Beibl_1588_LlGC.jpg)
Roedd cyfieithiad William Salesbury o'r Testament Newydd wedi bod ar gael ers 1567, ac er fod yna dipyn o feirniadu ar Gymraeg hwnnw, roedd cyfieithiad Salesbury yn rhoi sail hynod werthfawr i gyfieithiad newydd William Morgan. Erbyn 1587 roedd William Morgan wedi gorffen cyfieithu'r Hen Destament, y Testament Newydd a'r Apocryffa, ac fe aeth y cyfan drwy'r wasg yn 1588.