From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae cydnabyddiaeth ryngwladol o Wladwriaeth Palesteina, gan fwyaf, yn gydnabyddiaeth gan y corff priodol i wnued hynny, sef y Cenhedloedd Unedig. Y cefndir i hyn ydy gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd a ddeilliodd oherwydd fod cenedl y Palesteiniaid wedi colli eu tir i Israel pan grëwyd gwladwriaeth Israel yn 1948. Yn 1948 gorfodwyd cannoedd o filoedd o Balesteiniaid i ffoi o'u cartrefi yn yr hen Balesteina Adnabyddir y ffoedigaeth hon gan y Palesteiniaid fel Al Nakba (Arabeg: النكبة "Y Drychineb").
Enghraifft o'r canlynol | erthygl sydd hefyd yn rhestr |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar 14 Hydref 1974, cydnabyddwyd Mudiad Rhyddid Palesteina (neu'r PLO) gan Gynulliad y Cenhedloedd Unedig (UN) a rhoddwyd yr hawl iddynt i gymeryd rhan yn nhrafodaethau'r Cynulliad Cyffredinol pan drafodir statws y genedl.[1]
Ar 22 Tachwedd 1974, ehangwyd eu hawliau i gymeryd rhan ym mhob trafodaeth.[2]
Ar 15 Rhagfyr 1988, derbyniwyd a chymeradwywyd "Datganiad o Ymreolaeth Palesteina" gan Cynulliad Cyffredinol; Cynnig 43/177.[3]
Ar 29 Tachwedd 2012, rhoddwyd i'r PLO statws arsylwi (Observer state status) gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
Cyhoeddwyd Palesteina'n Wladwriaeth ar y 15fed o Dachwedd 1988 yn Algeria mewn cyfarfod arbennig o alltudion Cyngor Cenedlaethol Mudiad Rhyddid Palesteina (y PLO). Cynsail cyfreithiol hyn oedd Penderfyniad Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, (Penderfyniad 181 (II) a gymeradwywyd ar 29 Tachwedd 1947, a oedd yn dod a hawliau Prydain i ben ac yn rhannu Israel yn ddwy wladwriaeth.
O fewn dim, cymeradwywyd y Datganiad gan nifer o wledydd:[4] ac erbyn diwedd y flwyddyn daeth cefnogaeth i'r cydnabyddiaeth hwn gan 80 o genhedloedd.[5]
Ar 29 Tachwedd 2012, derbyniwyd cynnig a oedd o flaen Cynulliad y Cenhedloedd Unedig a oedd yn newid statws Paleseina i fod yn "Wladwriaeth heb fod yn aelod" ("non-member state"). Roedd nifer y gwledydd a gytunodd â'r cynnig yn 138 a'r nifer o wledydd a oedd yn erbyn y cynnig yn 9; cafwyd 41 o wledydd a ataliodd eu pleidlais.[6][7] Golygai hyn fod y Cenhedloedd Unedig yn derbyn sofraniaeth Palesteina fel Gwladwriaeth a hynny gyda mwyafrif eithriadol.
Y gwledydd a bleidleisiodd yn erbyn y cynnig oedd: Israel, yr Unol Daleithiau, Ynysoedd Marshall, Canada, Gweriniaeth Tsiec, Micronesia, Nawrw, Palaw a Panama.
Ar 29 Medi 2012 derbyniwyd cynnig gan Lywodraeth yr Undeb Ewropeaidd a oedd yn datgan eu bod yn "Cefnogi ac yn galw ar eu haelodau (gwledydd) i gefnogi hawl y Paleseiniaid i gael eu cynrychioli fel gwladwriaeth oddi fewn y Cenhedloedd Unedig."[8]
Galwodd Pab Bened XVI am roi statws Gwladwriaeth i Balesteina yn ystod ei ymweliad i Israel yn 2009. Cyfarfu Mahmoud Abbas, sef Cadeirydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina (PNA) eto ym Mehefin 2011.[9][10][11]
Ar 3 o Hydref 2014 cafwyd anerchiad gan Brif Weinidog Sweden y byddai ei wlad yn cydnabod cenedl Palesteina ac yna ar 13 Hydref 2014 pleidleisiodd Llywodraeth y DU o 274 i 12 o blaid cydnabod Palesteina yn genedl.[12][13][14]
Yn Ionawr 2016 cyhoeddodd y Fatican fod eu "Cytundeb gyda Gwladwriaeth Palesteina" wedi dod i rym. Mae eu defnydd o'r gair "gwladwriaeth" yma'n holl bwysig, gan ei fod yn cefnogi'n llwyr statws di-aelod llawn i'r Palesteiniaid yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.[15]
2012 UN General Assembly resolution granting Palestine a non-member observer status.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.