Cwmwl siwgwr
candyfloss losin melysyn / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffurf o siwgr sydd wedi'i droelli yw cwmwl siwgwr, cwmwl candi, neu blew siwgwr (Saesneg ː Candy-floss). Siwgr yw'r prif gynhwysyn, gydag ychydig o flas neu liw bwyd yn aml wedi'i ychwanegu.[1]
Ffeithiau sydyn Math, Lliw/iau ...
Math | sugar candy |
---|---|
Lliw/iau | pinc |
Lleoliad | Gorllewin Jawa |
Yn cynnwys | siwgr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Mae cwmwl siwgwr yn cael ei greu trwy dwymo siwgr a'i droi'n hylif, ac yna ei droelli allan o dyllau man. Mae'n caledu eto mewn edafedd tenau o "wydr siwgr".[2]. Aer yw'r rhan fwyaf o'r cwmwl, ac mae 1 owns neu 28 gram yn cael ei ystyried yn ddigon i un person. Mae'n aml yn cael ei werthu mewn ffeiriau, carnifalau, syrcasau a gwyliau Siapaniaidd, a hynny naill ai ar ffon neu mewn bag plastig.[3][4][5]