Roedd y Crumblowers yn fand Cymraeg o faestref Yr Eglwys Newydd yng Gaerdydd oedd yn perfformio a recordio yn yr 1980au hwyr a 1990au cynnar.[1] oedd y Crumblowers. Roeddynt i gyd yn heblaw Dave Rizzo, yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, ysgol gyfun Gymraeg gyntaf Caerdydd. Aeth Owen Powell ymlaen i fod yn aelod o'r grŵp Catatonia a lwyddodd i gyrraedd y brig yn y byd canu Saesneg. Er mai enw Saesneg oedd y Crumblowers (a sillafwyd weithiau fel Crymblowers) yn y Gymraeg oeddynt yn canu. Roedd Owen a Lloyd Powell yn ddau frawd. Roedd y Crumblowers yn rhan o don o grwpiau Cymraeg ddaeth o Ysgol Glantaf gan ddechrau gydag U Thant ac yna Edrych am Jiwlia, Hanner Pei, Bili Clin, Cofion Ralgex a mwy. Bu Siôn Lewis yn gitarydd achlysurol i'r band.
Y Crumblowers yn perfformio yn Clwb Ifor Bach oddeutu 1989 | |
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Aelodau
- Owen Powell[2] (llais)
- Lloyd Powell[2]
- Owen Stickler (drymiau)
- Lloyd Mahoney (gitâr)
- Dave Rizzo (bâs)
- Siôn Lewis (gitâr) aelod achlysurol
Recordiau
Llithro Mewn i Ffantasi (EP), 1989[3]
Colossus (Sengl), 1990[3]
Dolenni
- Syth gan y Crumblowers ar Youtube
- Crumblowers ar Discogs
- John Peel and the fight for the future of Welsh language music Erthygl yn nodi'r Crumblowers yn Saesneg
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.