From Wikipedia, the free encyclopedia
Y Groes Fictoria (VC) yw'r addurn milwrol uchaf sy'n cael ei gyflwyno am wroldeb "yng ngŵydd y gelyn" i aelodau'r lluoedd arfog yng ngwledydd y Gymanwlad a chyn diriogaethau'r Ymerodraeth Brydeinig[1]. Mae'r VC yn cael blaenoriaeth ar unrhyw urdd, anrhydedd neu fedal arall. Gall person o unrhyw reng milwrol yn unrhyw un o'r lluoedd arfog, yn ogystal ag unrhyw aelod sifil sy'n gweithio o dan reolaeth milwrol, ennill y VC[1].
Enghraifft o'r canlynol | gwobr militaraidd, gwobr am ddewrder, cross |
---|---|
Math | anrhydeddau a medalau milwrol y Deyrnas Unedig |
Deunydd | efydd |
Label brodorol | Victoria Cross |
Dechrau/Sefydlu | 29 Ionawr 1856 |
Sylfaenydd | Fictoria, brenhines y Deyrnas Unedig |
Enw brodorol | Victoria Cross |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyflwynwyd y VC am y tro cyntaf ar 29 Ionawr 1856 gan Brenhines Fictoria er mwyn anrhydeddu gweithredoedd arwrol yn ystod Rhyfel y Crimea. Cyn hyn dim ond swyddogion oedd yn gymwys i dderbyn yr anrhydedd uchaf, sef Urdd y Baddon. Roedd nifer o wledydd Ewropeaidd yn cyflwyno anrhydeddau nad oedd yn gwahaniaethau ar sail eu rheng nag ar sail dosbarth cymdeithasol; roedd gan Ffrainc y Légion d'honneur (Lleng Anrhydedd) ac roedd Yr Iseldiroedd yn cyflwyno Militaire Willems-Orde (Urdd William).
Cafwyd y seremoni cyntaf ar 26 Mehefin 1857 wrth Frenhines Fictoria urddo 62 o'r 111 milwr o Ryfel y Crimea yn Hyde Park, Llundain. Bellach, mae'r fedal wedi ei chyflwyno 1,358 o weithiau i 1,355 o unigolion. Dim ond 15 medal sydd wedi eu cyflwyno ers Yr Ail Ryfel Byd, 11 i aelodau Byddinoedd Prydain a phedwar i aelodau Byddinoedd Awstralia.
Credir fod y medalau wedi eu bathu o fetal canon Rwsiaidd a gafodd ei gipio yn ystod Gwarchae Sevastopol, ond mae ymchwil diweddar yn awgrymu mai canonau Tsieneiaidd yw tarddiad metal nifer ohonynt[2].
Mae'r addurn yn groes pattée efydd, 41mm (1 39/64") o uchder, 36mm (1 27/64") o led, yn dangos coron Sant Edward gyda llew uwchben a chyda'r arysgrif FOR VALOUR. Y geiriau FOR THE BRAVE oedd i fod i ymddangos yn wreiddiol hyd nes i'r Frenhines Fictoria ofyn am y newid rhag awgrymu nad oedd pob person mewn brwydr yn ymddwyn yn ddewr[3]. Mae'r addurn, y bar crog a'r ddolen yn pwyso tua 27g (0.87owns)[4]
Mae'r groes wedi ei chrogi ar gylch sy'n cysylltu â "V" ar far sydd wedi'i haddurno â dail llawryf. Ar gefn y bar, llae mae'r rhuban yn cael ei bwydo, ceir enw, rheng, rhif ac uned y derbynnydd[5]. Ar gefn y medal mae panel crwn lle torrir dyddiad y weithred arwrol[5].
Mae'r rhuban yn rhuddgoch, 38mm (1 1/2") o led. Yn wreiddiol (1856) roedd y rhuban i fod yn goch i aelodau'r fyddin ac yn las tywyll i aelodau'r llynges, ond diddymwyd y rhuban glas tywyll wedi ffurfio'r Llu Awyr Brenhinol ar 1 Ebrill 1918. Ar 22 Mai 1920 arwyddodd Sior V warant yn cyhoeddi y byddai pob derbynnydd o hyn ymlaen yn derbyn rhuban coch a bod angen i pob aelod o'r llynges oedd eisoes wedi derbyn VC i gyfnewid eu rhuban glas tywyll am un coch[6].
Er fod gwarantau'r fyddin yn datgan mai "coch" yw lliw y rhuban, fe'i ddigrifiwyd yn swyddogol fel rhuban "rhuddgoch".[7]
Nid oes modd dod i gasgliad pendant am y nifer o Gymry sydd wedi eu hurddo â'r VC gan fod nifer o filwyr di-Gymraeg gyda chatrawdau Cymreig a hefyd nifer o filwyr di-Gymraeg oedd yn byw yng Nghymru wedi eu cynnwys gan sawl cyfeirlyfr ymysg y rhestrau o Gymry gafodd eu hurddo. Syr Hugh Rowlands oedd y Cymro cyntaf i gael ei urddo yn dilyn gweithred yn ystod Rhyfel y Crimea, er i Robert Shields o Gaerdydd - yr ail Gymro i gael ei urddo - dderbyn ei fedal cyn Syr Hugh.
Yr un weithred filwrol y mae pawb yn ystyried ei fod yn Gymreig yw'r amddiffyniad o Rorkes Drift yn ystod Rhyfel y Zulu ym 1879 - lle enillwyd 11 VC gan aelodau o gartrawd Cyffinwyr De Cymru ac a anfarwolwyd yn y ffilm Zulu ond dim ond tri o'r unarddeg sy'n cael eu hystyried yn Gymry, bellach.
Dyma restr o rai o'r Cymry sydd wedi eu hanrhydeddu trwy ddyfarnu Croes Fictoria iddynt[8][9]
(Mae'r rhestr yn anghyflawn gellir helpu Wicipidia trwy ychwanegu ato)
Enw | Blwyddyn | Rhyfel | Brwydr | Gwlad |
---|---|---|---|---|
Syr Hugh Rowlands | 1857 | Rhyfel y Crimea | Inkerman | Rwsia |
Robert Shields | 1857 | Rhyfel y Crimea | Sesbastopol | Rwsia |
Jacob Thomas | 1857 | Gwrthryfel India | Rhyddhad Lucknow | India |
James Hills-Johnes | 1857 | Gwrthryfel India | Gwarchae Delhi | India |
William Wilson Allen | 1879 | Rhyfeloedd y Zulu | Rorke's Drift | De'r Affrig |
Robert Jones | 1879 | Rhyfeloedd y Zulu | Rorke's Drift | De'r Affrig |
John (Fielding) Williams | 1879 | Rhyfeloedd y Zulu | Rorke's Drift | De'r Affrig |
Llewellyn Alberic Emilius Price-Davies | 1901 | Rhyfel y Boer | Blood River | De'r Affrig |
Frederick Barter | 1915 | Y Rhyfel Byd Cyntaf | Festubert | Ffrainc |
Robert James Bye | 1917 | Y Rhyfel Byd Cyntaf | Yser Canal | Gwlad Belg |
James Llewellyn Davies | 1917 | Y Rhyfel Byd Cyntaf | Polygon Wood | Gwlad Belg |
Lewis Pugh Evans | 1917 | Y Rhyfel Byd Cyntaf | Zonnebeke | Gwlad Belg |
William Charles Fuller | 1914 | Y Rhyfel Byd Cyntaf | Chivy-sur-Aisne | Ffrainc |
Hubert William Lewis | 1916 | Y Rhyfel Byd Cyntaf | Macukovo | Gwlad Groeg |
Ivor Rees | 1917 | Y Rhyfel Byd Cyntaf | Pilkem | Gwlad Belg |
Lionel Wilmot Brabazon Rees | 1916 | Y Rhyfel Byd Cyntaf | Double Crassieurs | Ffrainc |
John Fox Russell | 1917 | Y Rhyfel Byd Cyntaf | Tel-el-Khuweilfeh | Palesteina |
Richard William Leslie Wain | 1917 | Y Rhyfel Byd Cyntaf | Cambrai/Marcoing | Ffrainc |
William Herbert Waring | 1918 | Y Rhyfel Byd Cyntaf | Ronssoy | Ffrainc |
Henry Weale | 1918 | Y Rhyfel Byd Cyntaf | Bazentin-le-Grand | Ffrainc |
John Henry (Jack) Williams | 1918 | Y Rhyfel Byd Cyntaf | Villers Outreaux | Ffrainc |
William Williams | 1917 | Y Rhyfel Byd Cyntaf | Yr Iwerydd | Ffrainc |
Bernard Armiage Warburton-Lee | 1940 | Yr Ail Ryfel Byd | Ofot Fjord | Norwy |
John Wallace Linton | 1943 | Yr Ail Ryfel Byd | HMS Turbulent | Mor y Canoldir |
Tasker Watkins | 1944 | Yr Ail Ryfel Byd | Falaise | Ffrainc |
Edward Thomas Chapman | 1945 | Yr Ail Ryfel Byd | Teutoburger Wald | Yr Almaen |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.