![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f5/Cro-Magnon.jpg/640px-Cro-Magnon.jpg&w=640&q=50)
Cro-Magnon
From Wikipedia, the free encyclopedia
Hen enw cyffredin (nid enw gwyddonol) yw Cro-Magnon a ddefnyddir i ddisgrifio bodau dynol (Homo sapiens sapiens) cynnar a oedd yn byw yn Hen Oes y Cerrig Uchaf o Ewrop. Y term cyfoes yw ‘bodau dynol modern cynnar yr Ewrop’ (European early modern humans (EEMH). Gan mai enw cyffredin ydyw Cro-Magnon nid oes iddo statws tacsonomegol ffurfiol.[1]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f5/Cro-Magnon.jpg/640px-Cro-Magnon.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/19/Silex_cromagnon_noir.jpg/640px-Silex_cromagnon_noir.jpg)
Canfuwyd gweddillion pobl Cro-Magnon yn yr Eidal ac yng ngwledydd Prydain, ac fe'i dyddiwyd gan ddyddio radiocarbon i rhwng 43,000 a 45,000 cyn y presennol (CP).[2][3] Cafwyd hyd i weddillion Pro-Magnon hefyd yn Yr Arctig Rwsiaidd a ddyddiwyd i 40,000 CP.[4][5]
O ddadansoddi'r esgyrn a ganfuwyd, gwyddwn fod Cro-Magnon yn gryf, trwm gyda thalcen syth ac wyneb llydan a byr. Roedd ei ên yn amlwg iawn a'i ymennydd oddeutu 1,600 cc - mwy na bodau dynol modern.[6]