From Wikipedia, the free encyclopedia
Bryn yng Ngwynedd gyda bryngaer ar ei gopa yw Creigiau Gwineu. Fe'i lleolir ger pentref Rhiw yn ardal penrhyn Llŷn.
Bryngaer fychan o gyfnod y Celtiaid sy'n dyddio yn ôl pob tebyg o Oes yr Haearn, cyn dyfodiad y Rhufeiniaid yw bryngaer Creigiau Gwineu. Yn y cyfnod hwnnw roedd penrhyn Llŷn yn cael ei drigiannu gan lwyth Celtaidd y Gangani. Ceir mur o gerrig o'i hamgylch gyda mur mewnol sy'n ei rhannu'n ddwy ran. Saif y brif fynedfa mewn ceunant naturiol ar ei hochr orllewinol.[1]
Amgylchynir y gaer gan rwydwaith o gaeau cynhanesyddol gyda olion canoloesol drostynt hefyd.[1]
Nid yw'r fryngaer hon wedi ei chofrestru gan Cadw (gweler Rhestr o fryngaerau wedi'u cofrestru).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.