Gwleidydd Ceidwadol a chyn aelod seneddol yw Craig Williams (ganed 7 Mehefin 1985 yn Y Trallwng). Roedd yn Aelod Seneddol (AS) Gogledd Caerdydd wedyn AS dros yr etholaeth Sir Drefaldwyn tan 2024.

Ffeithiau sydyn Aelod Seneddol dros Ogledd Caerdydd, Rhagflaenydd ...
Craig Williams
Thumb
Aelod Seneddol
dros Ogledd Caerdydd
Yn ei swydd
7 Mai 2015  3 Mai 2017
Rhagflaenydd Jonathan Evans
Olynydd Anna McMorrin
Aelod Seneddol
dros Sir Drefaldwyn
Yn ei swydd
12 Rhagfyr 2019  30 Mai 2024
Rhagflaenydd Glyn Davies
Olynydd etholaeth dyddymwyd
Manylion personol
Ganwyd (1985-06-07) 7 Mehefin 1985 (39 oed)
Y Trallwng, Cymru
Plaid wleidyddol Ceidwadol
Cau

Cafodd ei eni yn Y Trallwng, lle aeth ef i Ysgol Uwchradd Y Trallwng, wedyn symudodd i fynd i Brifysgol Birmingham.[1]

Gwleidyddiaeth

Roedd Cynghorydd Caerdydd rhwng 2008 a 2015, wedyn enillodd sedd fel AS dros Ogledd Caerdydd rhwng 2015 a 2017.[1]

Dychwelodd i San Steffan fel AS dros etholaeth Sir Drefaldwyn yn yr Etholiad cyffredinol 2019, gyda fwyafrif o fwy na 12,000.[2]

Yn 2020 daeth Williams yn Ysgrifenydd Preifat Seneddol i'r Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Steve Barclay,[3] wedyn yn 2022, Ysgrifenydd Preifat Seneddol i'r prif weinidog, Rishi Sunak.[4]

Ym Mai 2024, tri diwrnod cyn cyhoeddodd Sunak yr etholiad cyffredinol Gorffennaf 2024, betiodd Williams £100 y basai yr etholiad yn cymryd lle yng Nghorffennaf. Daeth y bet i'r sylw'r cwmni betio, a lansiodd ymchwiliad. Ar 25 Mehefin, tynodd y Blaid Ceidwadol eu cefnogaeth i Williams, ag oedd yn sefyll am ymgeisydd Ceidwadol dros yr etholaeth newydd Maldwyn a Glyndŵr.[4] Yn yr etholiad ar 4 Gorffennaf, daeth Williams yn drydydd, y tu ôl i Lafur a Reform UK.[5]

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.